Newyddion S4C

Huw Ware: Y dyfarnwr dartiau o Gymru sy'n mynd o nerth i nerth

Huw Ware

Mewn blwyddyn sydd wedi bod yn eithaf llwm i ddartiau yng Nghymru mae un Cymro wedi mynd o nerth i nerth.

Nid Gerwyn Price na Jonny Clayton, ond y dyfarnwr a'r galwr (caller) Huw Ware o'r Barri.

Dechreuodd ei yrfa dyfarnu ym Mhencampwriaeth BDO y Byd tra'r oedd yn yr ysgol, a bellach mae'n un o brif ddyfarnwr y corff llywodraethu dartiau, y PDC.

Dros y tair blynedd diwethaf mae wedi dyfarnu rowndiau terfynol rhai o brif gystadlaethau'r PDC.

Eleni fe fydd yn dyfarnu Pencampwriaeth Dartiau'r Byd y PDC i gyd am y tro cyntaf ac mae wedi arwyddo cytundeb gyda chwmni dartiau Winmau i fod yn llysgennad rhyngwladol.

Wrth siarad gyda Newyddion S4C dywedodd ei fod wedi cwympo mewn cariad gyda dartiau tra'r oedd yn fachgen yn y Barri.

"Roeddwn i tua 11 mlwydd oed ac roeddwn i jyst wedi eistedd lawr a dechrau gwylio fe, a wir mwynhau," meddai.

"Phil Taylor oedd yn chwarae yn erbyn Dennis Priestly, a pan dwi'n edrych yn ôl arni roedd y gêm yn hysbyseb enfawr i mi yn dangos bod dartiau yn wych.

"Roedden nhw'n bwrw rhifau nad oeddet ti'n meddwl bydden nhw'n bwrw, ac yn methu rhai oeddet ti'n disgwyl iddyn nhw fwrw. O'r foment honno roeddwn i mewn cariad gyda dartiau."

Image
Huw Ware yn rhan o dimau ieuenctid Cymru
Huw Ware (trydydd o'r dde) yn rhan o dimau ieuenctid Cymru. (Llun: Huw Ware)

Prynodd fwrdd dartiau ac aeth o ymarfer yn ei dŷ i gynrychioli Bro Morgannwg ac yna timau ieuenctid Cymru.

Chwaraeodd yn y Pencampwriaethau Ieuenctid Prydeinig cyntaf ond rhai misoedd yn ddiweddarach fe sylweddolodd ei fod eisiau bod yn ddyfarnwr.

"Roeddwn i'n rhan o dîm Cymru, tîm pedwar bachgen a phedwar bachgen a dwy ferch.

"Ond rhai misoedd yn ddiweddarach roeddwn i ar y llwyfan yn y dyfarnu, mae'n eithaf doniol mewn ffordd.

"Nes i ddyfarnu ar gyfer prif dîm y sir pan oedd y galwr heb droi lan a nes i gamu mewn a dyfarnu ar gyfer y noson gyfan."

Ar ôl tair blynedd o wneud hynny cafodd wahoddiad i ddyfarnu ym Meistri’r Byd Winmau, ac yna Pencampwriaeth y Byd yn Lakeside, prif gystadleuaeth dartiau'r byd ar y pryd a gafodd ei darlledu ar y BBC.

Roedd Huw yn astudio yn y chweched dosbarth ar y pryd a fo oedd y person ieuengaf erioed i ddyfarnu ym Mhencampwriaeth y Byd.

"Roedden nhw'n hapus gyda fi yn y World Masters ac erbyn diwedd yr ail ddiwrnod roedden nhw wedi fy nghynnwys yn rhan o'r tîm dyfarnu ac eisiau i mi dyfarnu ym Mhencampwriaeth Dartiau'r Byd.

"Roedd e'n brofiad gwych, yn swnllyd iawn, intense, ac roedd y to yn dod oddi ar y lle pan oedd y dorf yn dathlu.

"Yn 18 oed ac fel disgybl yn y chweched dosbarth, roedd yn frawychus iawn i mi ac roeddwn i'n nerfus iawn, ond nes i wir fwynhau."

Image
Huw Ware yn dyfarnu ym Mhencampwriaeth Dartiau'r Byd yn 18 oed
Huw Ware yn dyfarnu ym Mhencampwriaeth Dartiau'r Byd yn 18 oed. Llun: Huw Ware

Ymunodd gyda'r PDC yn 2021 ond roedd ei brif waith fel newyddiadurwr ac ymchwilydd llawrydd gyda BBC Sport.

Wedi rhai blynyddoedd o wneud hynny roedd wedi dechrau dyfarnu mwy o gystadlaethau'r PDC ac ymunodd a thîm o bedwar dyfarnwr y PDC yn barhaol.

Dyfarnwr sy'n 'digwydd bod yn hoyw'

Fe ddaeth Huw Ware allan yn 2014 tra yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd ac mae eisoes yn llysgennad LHDTCRA+ y PDC a Stonewall.

Bellach yn 31 oed mae'n adeiladu proffil iddo'i hun ac mae ei gytundeb newydd gyda Winmau yn golygu y bydd ganddo wefan, blog a phodlediad ei hun.

Ei obaith yw gwneud dartiau yn gamp sydd yn gyfforddus i bawb.

"Roeddwn i allan ym mhob rhan o fy mywyd heblaw dartiau, ac fe ddaeth i bwynt lle oedd dim angen i fi ddod allan yn y brifysgol achos roedd pawb yn gwybod.

"Y sefyllfa nawr yn 2024, mae dartiau yn lle llawer gwell na lle oedd e saith, wyth mlynedd yn ôl. Dyw e ddim yn berffaith, ond yn llawer gwell."

Mae newydd lansio grŵp LHDTCRA+ ar y cyd gyda'r PDC i gefnogwyr dartiau dan yr enw Out on the Oche ac mae ganddyn nhw 43 o aelodau yn barod.

"Dwi'n hapus iawn â’r ymateb hwnnw, nid oeddwn yn disgwyl cymaint â hynny mor gyflym, ac rydym wedi cael llawer o bobl eisoes yn gwneud sylwadau ar y grŵp yn postio ar y grŵp am eu profiadau, rhai ohonynt yn gadarnhaol, rhai ohonynt yn negyddol.

"Ond mae'n dda bod lle i bobl drafod eu profiadau a chreu safle diogel i bobl."

Image
Huw Ware yn dyfarnu ym Meisri Cazoo 2022
Huw Ware (yn dal yn meicroffon) yn dyfarnu ym Meistri Cazoo 2022. (Llun: Wochit)

Gerwyn, Jonny a'r Barri

Tyfodd Huw i fyny yn y Barri gyda'i deulu, ac er ei fod yn bellach yn byw yng Nghaerdydd mae gan y Barri le arbennig yn ei galon.

Mae chwaer ei fam-gu yn byw mewn tŷ gyferbyn â thŷ Gwen yn y gyfres Gavin and Stacey, ac roedd y BBC yn ei thalu i osod addurniadau Nadolig yno ar gyfer y rhaglenni Nadolig.

"Mae yna linell yn Gavin and Stacey, mae Nessa yn dweud rhywbeth yn debyg i 'mae'n lle rhyfedd, y Barri, dim ots faint o bell rydych chi'n mynd, bydd hi bob tro yn dy dynnu yn ôl.'

"A dwi wirioneddol yn meddwl bod hynny'n wir am y Barri, fe allai unrhyw beth digwydd yn y byd a byddai'r Barri yn iawn.

"Mae gan y Barri a Chymru lle arbennig yn fy nghalon, a gyda natur fy swydd i dwi'n teithio llawer ar draws y byd, ond bydd Cymru a'r Barri bob tro yn adref i mi."

Image
Huw Ware gyda Jonny Clayton (chwith) a Gerwyn Price (dde)
Cymry'r byd dartiau: Huw Ware gyda Jonny Clayton (chwith) a Gerwyn Price (dde). (Lluniau: Huw Ware)

Nid oes llawer o chwaraewyr dartiau o Gymru ar y gylchdaith dartiau, ond mae Gerwyn Price a Jonny Clayton yn ddau sydd yn chwarae'n gyson.

Maen nhw a Huw Ware yn ffrindiau da ac maen nhw'n treulio llawer o amser gyda'i gilydd oddi ar y llwyfan dartiau.

"Dwi'n cyfri Gerwyn a Jonny fel ffrindiau i fi achos dwi’n treulio lot o amser efo’r ddau ohonyn nhw i ffwrdd o’r oche.

"Maen nhw’n fois neis, pobol grêt ac rydym ni'n cael amser da gyda'n gilydd."

Ychwanegodd: "Dwi'n meddwl mai'r ffordd mae Gerwyn ar y llwyfan, dwi'n meddwl mai dyna ei ffordd o gael y gorau ohono'i hun, y math yna o gefndir rygbi a gwrthdaro sydd ganddo, iddo fe ac nid i'r gwrthwynebydd mae'n actio fel y mae, i gael y gorau ohono'i hun.

"Gyda Jonny, mae’n mynd ar y llwyfan ac yn taflu ei ddartiau a dyna sut mae’n cael y gorau o’i hun. Mae'n wahanol i bawb, mae cymaint o wahanol gymeriadau yn y byd dartiau a dyna sy'n ei wneud mor ddiddorol."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.