 
      Beth yw rhai o draddodiadau Noson Calan Gaeaf Cymru?
Yn draddodiadol mae pobl wedi cysylltu Noson Calan Gaeaf yng Nghymru gyda phwmpenni, 'cast neu geiniog' a gwisgo gwisgoedd brawychus.
Ond roedd dathlu'r noson yng Nghymru rai cannoedd o flynyddoedd yn ôl fymryn yn wahanol.
Beth felly yw traddodiadau Calan Gaeaf yng Nghymru ac ydyn nhw wedi parhau hyd heddiw?
Ysbrydion
Mae straeon am ysbrydion a bwystfilod yn crwydro ar hyd y wlad ar Noson Calan Gaeaf wedi bod yn rhai sydd wedi eu hadrodd adeg yma'r flwyddyn ers cenedlaethau,.
Dywedodd Simon Rodway, Darlithydd y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth bod pobl felly wedi "darganfod ffyrdd o gadw'n ddiogel" rhag rhai o'r ysbrydion hyn.
"O'dd na syniad felly bod 'na ysbrydion yn cerdded y wlad ar Noson Calan Gaea' a bod 'na rai sydd yn arbennig i Gymru," meddai.
 
      "Yn enwedig yr Hwch Ddu Gwta, y mochyn di-gynffon.
"Ac wedyn y Ladi Wen heb ddim pen, ac o'dd pobl yn cynnau coelcerthi ac yn y blaen, a bod nhw'n ddigon diogel wrth ymyl y goelcerth.
"Ond wedyn wrth gerdded adre oedd 'na ryw ofan felly bod yr hwch neu rywbeth felly yn eu dala nhw."
'Cast neu geiniog'
Mae'r traddodiad o chwarae 'cast neu geiniog' erbyn heddiw yn ymwneud â phlant yn cerdded o dŷ i dŷ yn gofyn am felysion.
Cyn i hyn ddod yn arfer yng Nghymru a Phrydain roedd 'na rai yn teithio o gwmpas de Cymru wedi gwisgo dillad arbennig ac yn cerdded o ddrws i ddrws.
"O'dd na rywbeth tebyg i 'trick or treat' 'fyd, yn y de yn arbennig," meddai Mr Rodway.
"A gwrachod oedd yr enw ar y bobl oedd yn crwydro wedi gwisgo dillad arbennig, dynion yn gwisgo dillad merched, er enghraifft.
"Ag oedd na gryn dipyn o yfed a pethau felly."
Ychwanegodd Mr Rodway bod y traddodiad o deithio o dŷ i dŷ yn gofyn am bethau yn rhan o nifer o ddigwyddiadau traddodiadol yng Nghymru.
 
      Mae'r rhain yn cynnwys y Calennig lle bydd plant yn teithio i dai gydag anrhegion.
"Ma' rhywun yn meddwl am Calennig amser Dydd Calan a pethau felly.
"Ma' 'na bethau sydd yn digwydd adeg Nos Galan Gaea' mewn rhannau o Gymru gannoedd o flynydde yn ôl.
"Pethau fel trial dyfalu pwy fydde rhywun yn ei briodi ac yn y blaen.
"Ond ma' pethau fel 'ny yn digwydd ar adegau eraill o'r flwyddyn, ma' nhw'n digwydd mewn mannau eraill.
"Felly mae'n debyg bod 'na goelion fel hyn sydd yn gyffredin i wledydd Prydain am wn i, a falle tu hwnt a bod nhw hefyd yn gallu dod yn rhan o ddathliadau y dyddiad penodol."
Fe gafodd yr erthygl hon ei chyhoeddi'n wreiddiol yn 2023.
