Newyddion S4C

Cau ffordd rhwng Dolgellau a Machynlleth oherwydd ‘tir ansefydlog’

13/12/2024

Cau ffordd rhwng Dolgellau a Machynlleth oherwydd ‘tir ansefydlog’

Gallai ffordd rhwng Dolgellau a Machynlleth fod ar gau am bron i wythnos oherwydd tir ansefydlog ar ôl Storm Darragh.

Mae disgwyl i’r ffordd rhwng Corris a Minffordd fod ar gau i’r ddau gyfeiriad nes ddydd Iau'r wythnos nesaf, yn ôl Traffig Cymru.

O ganlyniad mae’n rhaid i yrwyr rhwng Dolgellau a Machynlleth yrru’r 20 milltir dros Fwlch yr Oerddrws drwy bentref Mallwyd.

Image
tir
Cyflwr y fordd fore dydd Sadwrn diwethaf (Llun: Martin Jones)

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y ffordd ar gau am “resymau diogelwch” oherwydd “cyflwr y tir ansefydlog uwchben y ffordd”.

Bydd diweddariadau ar wefan Traffig Cymru a’u cyfryngau cymdeithasol meddai llefarydd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.