Cyflwyno cais i ddymchwel hen ysgol Bontnewydd yng Ngwynedd
Mae cynlluniau wedi eu cyflwyno i Gyngor Gwynedd i ddymchwel adeiladau presennol Ysgol Gynradd Bontnewydd ger Caernarfon cyn i gyfleusterau newydd gael eu hadeiladu ar y safle.
Cafodd prif adeilad yr ysgol ei adeiladu yn yr 1970au ac mae bellach yn “hen ffasiwn”, medd y cynlluniau.
Bydd y cynllun newydd yn arwain at ddatblygu ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg ar gyfer 240 o ddisgyblion, gan gynnwys darpariaeth feithrin ar gyfer 30 o ddisgyblion.
“Mae bellach yn dioddef o ffabrig adeilad ar ddiwedd ei oes ddylunio, yn methu â darparu amgylchedd addysgu addas o fewn cyd-destun y safonau dylunio presennol a ddisgwylir gan ysgolion o fewn yr unfed ganrif ar hugain” medd y cais.
Mae’r cais yn nodi bod cynllun Ysgol Bontnewydd, mewn cydweithrediad â Chyngor Gwynedd, wedi sicrhau cyllid llawn gan Lywodraeth Cymru drwy’r cynllun “Her Ysgolion Cynaliadwy”.
Mae’r fenter “yn ceisio hyrwyddo carbon net sero ac arloesi o fewn y sector addysg”.
Mae Bontnewydd yn un o dair ysgol a gomisiynwyd, gydag un arall yn y de ac un yn y canolbarth, “gyda’r bwriad o ddefnyddio’r tri safle fel astudiaethau achos ar gyfer caffael adeiladau ysgol yn y dyfodol”.
Bydd y safle newydd yn darparu “gofal cofleidiol” a Chylch Meithrin ar gyfer hyd at 30 o ddisgyblion ac uned anghenion dysgu ychwanegol.
Ar hyn o bryd mae adeilad ysgol Fictoraidd ar wahân yn cynnwys y Cylch Meithrin, ac mae ganddo “ddarpariaethau cyfyngedig i’w defnyddio gan y gymuned,” mae’r cynlluniau’n nodi.
Bydd gan y ganolfan gymunedol hefyd gapasiti ar gyfer tua 70 o bobl y tu allan i oriau ysgol ac 20 yn ystod oriau ysgol arferol.
Mae’r cais yn cynnwys cynlluniau ar gyfer mynedfa newydd i gerbydau gyda maes parcio newydd a mannau gollwng “i wella diogelwch cerddwyr”.
Prif lun: Argraff artist o'r ysgol a'r ganolfan newydd