Newyddion S4C

Cwpan Cymru JD: Llanuwchllyn a Hotspur Caergybi yn gobeithio parhau gyda'u rhediadau

Sgorio 14/12/2024
Holyhead Hotspur vs Caernarfon Town - Hyd 2024

Dros y penwythnos bydd 16 o glybiau yn cystadlu ym mhedwaredd rownd Cwpan Cymru JD, a dim ond pedwar o glybiau’r uwch gynghrair sydd wedi llwyddo i gyrraedd y bedwaredd rownd sef y nifer lleiaf erioed ers ffurfio’r gynghrair yn 1992.

Bydd pump o glybiau Cynghrair y Gogledd, a phedwar o glybiau Cynghrair y De yn brwydro i gyrraedd rownd yr wyth olaf, yn ogystal â dau o dimau’r drydedd haen, sef Hotspur Caergybi a Llanuwchllyn.

Airbus UK (Haen 2) v Caersws (Haen 2)

Caerau Trelai (2) v Y Bala (1)

Caerfyrddin (2) v Hotspur Caergybi (3)

Dinbych (2) v Llanuwchllyn (3)

Lido Afan (2) v Cambrian (2)

Cei Connah (1) v Yr Wyddgrug (2)

Y Seintiau Newydd (1) v Bae Colwyn (2)

Ym mrwydr clybiau Cynghrair y Gogledd bydd Airbus UK yn croesawu Caersws, a gyda’r ddwy gêm ddiwethaf rhwng y timau wedi gorffen yn 3-3 mae hi’n addo goliau ar y Maes Awyr.

Doedd yna ddim goliau yn y gêm rhwng Lido Afan a Cambrian yng Nghynghrair y De ym mis Awst a dyw’r Lido heb ennill dim un o’u wyth gornest ddiwethaf yn erbyn Cambrian.

Bydd Caerfyrddin yn herio Hotspur Caergybi am y tro cyntaf ers 12 mlynedd, pan enillodd yr Hen Aur o 2-1 oddi cartref yn nhrydedd rownd Cwpan Cymru 2012/13.

Dyw Hotspur Caergybi o’r drydedd haen heb sgorio yn y ddwy rownd ddiwethaf gan ennill ar giciau o’r smotyn yn erbyn Caernarfon a Bae Trearddur yn dilyn gemau di-sgôr.

Mae Dinbych wedi cyrraedd y bedwaredd rownd am y tro cyntaf ers hanner canrif, ac mi fyddan nhw’n croesawu Llanuwchllyn sydd wedi cyrraedd y bedwaredd rownd am y tro cyntaf erioed.

Caerau Trelai (Haen 2) v Y Bala (Haen 1) | Dydd Sadwrn – 14:00

Am yr ail dymor yn olynol bydd Y Bala’n teithio i Gaerau Trelai ym mhedwaredd rownd Cwpan Cymru JD.

Criw Colin Caton oedd yn fuddugol y tymor diwethaf yn ennill o 4-1 yng Nghwrt-yr-Alagyda’r golwr Kelland Absalom yn sgorio i’r Bala o’i gwrt ei hun gyda chymorth y gwynt, a Naim Arsan yn rhwydo gôl hyfryd a chafodd ei dewis fel enillydd Gôl y Mis ar gyfer Rhagfyr 2023.

Mae Caerau Trelai eisoes wedi curo clwb o’r Cymru Premier JD yn y gystadleuaeth eleni, ar ôl ennill ar giciau o’r smotyn yn erbyn Y Barri yn yr ail rownd yn dilyn gêm gyffrous orffennodd yn 3-3 ar Barc Jenner.

Ers tymor 2011/12 mae’r Bala wedi llwyddo i gyrraedd rownd yr wyth olaf wyth gwaith mewn 12 cynnig, ac yna camu ymlaen i’r rownd gynderfynol ar chwe achlysur.

Y Bala oedd enillwyr Cwpan Cymru 2017, yn curo’r Seintiau Newydd yn y rownd derfynol yn Nantporth, a gyda chyn lleied o glybiau’r uwch gynghrair ar ôl yn y gystadleuaeth bydd Hogiau’r Llyn yn benderfynol o gyrraedd y ffeinal unwaith eto eleni.

Cei Connah (Haen 1) v Yr Wyddgrug (Haen 2) | Dydd Sadwrn – 17:20 (Yn fyw ar S4C)

Er mae dim ond rhyw saith milltir sy’n gwahanu’r ddwy dref yma yn Sir y Fflint, hon fydd yr ornest gyntaf rhwng y clybiau ers bron i 30 o flynyddoedd.

Yr Wyddgrug oedd yn fuddugol bryd hynny yn Ebrill 1995, yn ennill o 3-1 oddi cartref yn Uwch Gynghrair Cymru.

A byddai clwb Parc Alun wrth eu boddau gyda chanlyniad tebyg ddegawdau yn ddiweddarach er mwyn curo deiliaid y cwpan, Cei Connah.

Mae’r Wyddgrug wedi cyrraedd y bedwaredd rownd am y tro cyntaf ers 1985/86 (colli vs Caerdydd), a dyw’r clwb erioed cyrraedd rownd yr wyth olaf.

Mae Cei Connah ar y llaw arall wedi cyrraedd rownd yr wyth olaf naw gwaith yn olynol, ac wedi mynd ymlaen i ennill y gwpan ddwywaith (2018 a 2024).

Dyma’r trydydd clwb o’r ail haen i wynebu’r Nomadiaid yn y cwpan y tymor hwn, gyda Chei Connah yn curo Cegidfa a Trefelin yn y rowndiau blaenorol.

Ar ôl trechu Penrhyncoch yn yr ail rownd fe lwyddodd Yr Wyddgrug i guro Llansawel o’r uwch gynghrair yn y drydedd rownd, a bydd clwb yr Alex yn anelu i achosi sioc arall nos Sadwrn.

Y Seintiau Newydd (Haen 1) v Bae Colwyn (Haen 2) | Dydd Sul – 17:30

Bydd hi’n achlysur arbennig i Michael Wilde nos Sul wrth i reolwr Bae Colwyn ddychwelyd i’w gyn-glwb be enillodd Gwpan Cymru ar bedwar achlysur, yn ogystal â saith pencampwriaeth Uwch Gynghrair Cymru.

Aeth Wilde ymlaen i ennill Cwpan Cymru ddwywaith yn rhagor gyda Cei Connah, gan chwarae yn y rownd derfynol ym mis Ebrill 2024 yn erbyn Y Seintiau Newydd ble enillodd y Nomadiaid o 2-1 yn Rodney Parade, Casnewydd.

Mae’r gŵr 41 mlwydd wedi sgorio deirgwaith mewn rowndiau terfynol Cwpan Cymru, a’r dair yn erbyn Aberystwyth – unwaith i’r Seintiau yn 2013/14 ar y Cae Ras, a dwy gôl i Gei Connah yn erbyn y Gwyrdd a’r Duon yn rownd derfynol 2017/18.

Ers 2018, dyw’r Seintiau m’ond wedi colli ddwywaith mewn 30 o gemau yng Nghwpan Cymru gyda’r ddwy golled yn erbyn Cei Connah, a Michael Wilde yn aelod o dîm y Nomadiaid ar y ddau achlysur.

Felly, mae rheolwr Bae Colwyn yn sicr yn gwybod beth yw’r tric i guro cewri Croesoswallt, ond bydd hi’n dasg anferthol i’r Gwylanod sydd wedi colli eu tair gêm ddiwethaf yn erbyn Y Seintiau Newydd, yn cynnwys colled o 6-1 yn Neuadd y Parc ym mis Hydref 2023.

A’r Seintiau Newydd oedd yn fuddugol y tro diwethaf i’r clybiau gwrdd yn y gwpan, gyda Danny Davies yn rhwydo unig gôl y gêm ar y Belle Vue, Y Rhyl yn rownd gynderfynol 2021/22.

Mae Bae Colwyn wedi cyrraedd rownd gynderfynol y gystadleuaeth ar bedwar achlysur, ond dyw’r Gwylanod erioed wedi camu i’r rownd derfynol.

Mae’r Seintiau Newydd wedi ennill Cwpan Cymru ar naw achlysur, a dim ond yr Alltudion sydd wedi ennill mwy - Wrecsam (23), Caerdydd (22), Abertawe (10).

Mae’r Seintiau wedi chwarae mewn 13 ffeinal (ennill 9, colli 4), ac wedi cyrraedd wyth o’r naw rownd derfynol ddiwethaf, gan ennill chwech o’r rheiny yn erbyn chwe clwb gwahanol (Aber, Drenewydd, Airbus, Cei Connah, Pen-y-bont, Bala).

Colli’n annisgwyl yn y rownd derfynol oedd eu hanes y tymor diwethaf, gyda Cei Connah yn cipio’r cwpan, a bydd Craig Harrison yn ysu i adennill y tlws eleni.

Bydd uchafbwyntiau nifer o’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a’r gorau o gyffro’r penwythnos ar S4C nos Lun.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.