Newyddion S4C

Pryder wrth i filiau ynni godi hyd at 40% dros y pum mlynedd nesaf

13/12/2024

Pryder wrth i filiau ynni godi hyd at 40% dros y pum mlynedd nesaf

O goginio, cael paned a golchi'r dillad. 

Mae prisiau egni uchel yn y blynyddoedd diwethaf yn aml wedi bod yn y penawdau.

Dan gynlluniau newydd, bydd angen i gwmniau ynni gynnig cytundebau heb dâl sefydlog fel cynnig i gwsmeriaid.

Mae pob cartref yn talu hwnnw am gysylltu efo cyflenwr faint bynnag o ynninsy'n cael ei ddefnyddio.

Mae Ofgem wedi ymateb oherwydd pryderon bod pobl hŷn a bregus yn cael eu taro yn waeth gan y ffi sydd wedi cynyddu dros 40% mewn pum mlynedd.

"Bydd nifer o bobl sy'n defnyddio llawer o ynni yn gweld bod e o fantais iddyn nhw i beidio gorfod talu £1 y dydd o dâl sefydlog a bod hi'n dynn arnyn nhw mewn rhyw fis a ddim yn gorfod talu hwnna a gohirio talu falle bydd e'n siwtio pobl yn well."

Ydy'r newidiadau yn mynd i wneud y system yn decach?

"Wel, yn y pen draw, bydd neb yn arbed arian trwy wneud hyn ond yn newid y ffordd maen nhw'n talu am ynni maen nhw'n defnyddio.

"Mae'n opsiwn arall."

Pan ofynnodd Ofgem am farn y cyhoedd, cafwyd ymateb digynsail gyda dros 30,000 yn gwneud hynny.

Roedd y mwyafrif yn erbyn tâl sefydlog. Ar strydoedd Rhydaman oedd pobl yn cytuno â hynny.

"Os nag y't ti'n iwso fe, pam fi'n talu?"

Sut mae Fred yn gweld biliau egni erbyn hyn?

"Drud uffernol, maen nhw wedi mynd lan shwt gymaint.

"Sa i'n deall fel maen nhw'n gallu gwneud e."

Ydych chi 'di ffeindio bod nhw 'di dod lawr rhyw fymryn?

"Na, dim 'da ni."

"Os yw e'n neud y bil yn chepach ar ddiwedd y dydd, mae e werth e!"

Dyna oedd barn Ann.

Roedd biliau egni'n uchel, maen nhw 'di dod lawr rwan.

Sut dach chi'n gweld pethau?

"Nid yn ôl y llythyron gaethon ni wythnos diwethaf. Mae'n mynd i godi eto ar Ionawr y 1af.

"Ni di colli £200 wrth y Llywodraeth a'r bil i fod i fynd lan £200.

"Ni £400 allan o boced, sy'n lot i hen bensiynwyr fel ni."

Ydy hyn yn syniad da?

"Ody, mae'r amser 'da chi i siopa rownd a gweld y deals gorau. A bwyd yr un peth.

"Os chi'n gallu mynd o siop i siop, ond mae nifer ddim yn gallu."

Y cynnig yn tanio trafodaeth a rhoi dewis gwahanol i bobl.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.