Newyddion S4C

Pêl-droed: Cymru yn darganfod eu gwrthwynebwyr yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2026

13/12/2024

Pêl-droed: Cymru yn darganfod eu gwrthwynebwyr yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2026

Mae Gwlad Belg ymhlith y timau y bydd Cymru yn eu hwynebu yn rownd ragbrofol Cwpan y Byd 2026.

Cafodd y seremoni i dynnu enwau allan o’r het ar gyfer grwpiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2026 ei chynnal yn Zurich, Swistir, ddydd Gwener.

Roedd Cymru wedi eu rhoi yn yr ail bot o ddetholion ar gyfer y seremoni.

Y timau gafodd eu gosod yng Ngrŵp J gyda Chymru oedd Gwlad Belg, Gogledd Macedonia, Kazakhstan ac Liechtenstein.

Fe fydd Cymru yn chwarae yn erbyn bob tîm gartref ac oddi cartref.

Bydd yr wyth gêm yn cael eu chwarae rhwng mis Mawrth a Thachwedd yn ystod y flwyddyn nesaf.

Fe fydd Cwpan y Byd 2026 yn cael ei chwarae yn yr Unol Daleithiau, Canada a Mecsico.

Am y tro cyntaf, fe fydd 48 o wledydd yn cymryd rhan yng Nghwpan y Byd, gyda 16 o dimau o Ewrop.

Bydd y tîm sydd ar frig bob un o’r 12 grŵp yn ennill eu lle yn y gystadleuaeth.

Yna bydd y 12 o dimau yn yr ail safle, yn ogystal â phedwar tîm a enillodd eu grŵp yng Nghynghrair Cenhedloedd UEFA sydd heb eisoes gymhwyso i Gwpan y Byd, yn brwydro am y pedwar safle sydd yn weddill mewn gemau ailgyfle.

Gan fod Cymru wedi ennill eu grŵp yng Nghynghrair Cenhedloedd UEFA yn gynharach eleni, mae siawns cryf y bydd tîm Craig Bellamy yn cael eu cynnwys yn y gemau ailgyfle, hyd yn oed os na fydden nhw’n llwyddo i orffen yn y ddau safle uchaf yn y grŵp rhagbrofol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.