Partïon Nadolig: Dod o hyd i leoliad i rywun ag anabledd 'ddim yn syml'
Partïon Nadolig: Dod o hyd i leoliad i rywun ag anabledd 'ddim yn syml'
A hithau'n dymor y Nadolig, mae'n amser i ddathlu gyda chydweithwyr eto eleni.
Ond nid ar chwarae bach y mae dod o hyd i leoliad parti Nadolig i'r rhai hynny ohonom ni sydd ag anabledd.
Mae gen i fath anghyffredin o ddystroffi’r cyhyrau (Muscular Dystrophy), cyflwr sy'n golygu cyhyrau gwan. Mae’n golygu nad ydw i’n gallu dringo grisiau'n dda iawn.
A dyw heriau'r partis Nadolig ddim yn unigryw i fi.
Yn ôl Ciaran Fitzgerald, sy'n 29 oed, mae’r heriau mae e’n wynebu ar noson allan yn “rhoi diffyg hyder” iddo, a’i wahanu oddi wrth ei ffrindiau.
Mae’r dyn o Bort Talbot yn pwysleisio nad dim ond ffiniau corfforol yw’r rhain, ond agweddau pobl hefyd.
Gan bod Cerebral Palsy ar Ciaran, “mae e weithiau yn ymddangos yn debyg i bobl sydd wedi meddwi,” sy’n arwain at staff yn “gwrthod rhoi gwasanaeth i fi,” meddai.
“Dwi jyst mo’yn bod fel pob un arall, a weithiau dyw hynny ddim yn bosib oherwydd y ffiniau sydd yn bodoli."
Mynediad
Mae bron i chwarter (24%) o boblogaeth y DU ag anabledd - dros 16 miliwn o bobl. Roedd ffigurau Llywodraeth y Deyrnas Unedig o 2021 yn dangos bod dwy ran o dair o bobl anabl (66%) methu cael mynediad i fariau, clybiau a chaffis.
Mae'n her y bu'n rhaid i mi feddwl amdani wrth geisio dod o hyd i leoliad ein parti gwaith Newyddion S4C eleni.
Roedd angen lleoliad heb risiau. Dyma her fwy na’r disgwyl.
Er ffonio sawl lleoliad gwahanol, roedd eu hatebion i gyd yn debyg; mai grisiau yn unig sydd gyda nhw, neu bod ganddyn nhw lifft ond un sydd ddim yn gweithio.
Mae pethau fel lifft dibynadwy yn hanfodol i nifer o bobl anabl fel fi, yn ogystal â digon o lefydd addas i eistedd er mwyn arbed egni trwy gydol y nos.
Dw i wedi cael sawl profiad ar noson allan lle rwy’n gorfod gadael yn gynt na’r disgwyl am fy mod i wedi sefyll am amser hir heb gael cyfle i eistedd lawr, sy’n arwain at flinder a phoen yn y cyhyrau.
Hygyrchedd
“Mae diffyg hygyrchedd yn broblem enfawr,” medd Elin Williams o Anabledd Cymru.
“Nid yn unig o ran lleoliadau ac adeiladau eu hunain ond hefyd yr aymgylchoedd o fewn yr adeilad, felly diffyg toiledau hygyrch, goleuadau sydd yn fflachio sydd yn cael effaith ar rhai bobl, a hefyd diffyg ystafelloedd lle mae pobl yn gallu mynd i gael brec bach os ydy’r sefyllfa yn rhy uchel ac ati.
“Yn anffodus dydy hygyrchedd ddim ar frig rhestr blaenoriaeth pobl, felly dydy o ddim yn aml yn cael ei gysidro, sydd yn golygu bob pobl anabl yn cael eu gadael ar ol ac yn teimlo fel eu bod nhw ddim yn perthyn, os nad yw lleoliadau yn hygyrch.”
Prif neges yr elusen yw bod “angen lot mwy o waith i greu cymdeithas sydd yn fwy cynhwysol i bobl anabl.”
Y gobaith i nifer felly yw y bydd cwmnïau yn gwrando ar anghenion pobl anabl, ac yn newid eu lleoliadau i gynnwys pawb.