Dyn 'â pherthynas agos' i'r Tywysog Andrew yn colli apêl i gael mynediad i'r DU
Mae dyn busnes o Tsieina oedd â pherthynas 'agos' gyda’r Tywysog Andrew wedi colli apêl i wrthdroi penderfyniad i’w wahardd o’r DU ar sail diogelwch cenedlaethol.
Fe gafodd y dyn sydd yn cael ei adnabod fel ‘H6’ ei wahardd rhag dod i mewn i’r DU ym mis Mawrth 2023, a hynny gan y cyn Ysgrifennydd Cartref Suella Braverman.
Clywodd barnwyr yn ystod ei apêl ei fod wedi magu perthynas waith agos gyda’r Tywysog Andrew, ag yntau wedi derbyn gwahoddiad i’w barti pen-blwydd yn 2020.
Roedd y dyn hefyd wedi cael gwybod y byddai modd iddo weithredu ar ran y Tywysog gyda rhai materion busnes yn Tsieina.
Mae Palas Buckingham wedi gwrthod ymateb gan ddweud nad yw’r Tywysog Andrew yn aelod gweithredol o’r Teulu Brenhinol bellach.
'Ymyrraeth wleidyddol'
Fe aeth H6 â’i achos i’r Comisiwn Apeliadau Mewnfudo Arbennig, sef llys a gafodd ei sefydlu er mwyn ymwneud ag apeliadau yn erbyn penderfyniadau i wahardd neu symud rhywun o’r wlad ar sail diogelwch gwladol neu resymau cysylltiedig.
Yn y dogfennau llys, dywedodd y barnwr fod Suella Braverman yn gywir i ddod i’r casgliad bod H6 yn peri risg i “ddiogelwch cenedlaethol y Deyrnas Unedig” gan ddweud bod “ganddi’r hawl i ddod i’r casgliad bod cyfiawnhad dros ei wahardd.”
Roedd yn rhaid i H6 ildio nifer o ddyfeisiau electronig, gan gynnwys ffôn symudol, ar ôl iddo gael ei atal gan swyddogion diogelwch ffiniau’r DU ym mis Tachwedd 2021.
Cafodd wybod yn ddiweddarach eu bod o’r gred ei fod â chysylltiad â’r United Front Work Department (UFWD) yn Tsieina. Mae’r UFWD yn gysylltiedig â Phlaid Gomiwnyddol Tsieina ac mae ganddyn nhw gyfrifoldeb dros gynnal gweithredoedd all ddylanwadu ar bobl.
Clywodd y llys fod yr MI5 wedi dweud ei fod yn bryderus y byddai’r dyn yn galluogi “ymyrraeth wleidyddol” gan Tsieina yn y DU.
Dywedodd y Swyddfa Gartref eu bod o’r gred fod y dyn yn gweithredu ar ran Plaid Gomiwnyddol Tsieina a’i fod yn ceisio manteisio ar ei berthynas gyda’r Tywysog Andrew.