Newyddion S4C

Galw ar awdurdodau lleol i 'gynnal a chadw mynwentydd sydd wedi cau'

Newyddion S4C

Galw ar awdurdodau lleol i 'gynnal a chadw mynwentydd sydd wedi cau'

Mi ddylai’r gwaith o gynnal a chadw mynwentydd sydd wedi cau gael ei drosglwyddo i awdurdodau lleol yn ôl yr Eglwys yng Nghymru. 

Ar hyn o bryd, pan mae mynwentydd yn llawn mae’n rhaid i’r plwyf gynnal a chadw, trwsio a gwarchod y mynwentydd. 

Ond yn ôl yr Eglwys yng Nghymru mae’r costau cynnal yn codi bob blwyddyn a gyda llai yn mynychu’r eglwys mae nhw’n rhybuddio bod y sefyllfa yn anghynaladwy. 

Dweud mae Cymdeithas Llywodraeth leol Cymru y byddai trosglwyddo’r cyfrifoldeb yn gorfod dod â ‘chyllid llawn a chynaliadwy’.

Mae’r Eglwys yng Nghymru yn cynnal ymgynghoriad ar hyn o bryd i glywed pa mor ymarferol bosib ac addas fyddai trosglwyddo cyfrifoldeb. 

Mae’r drefn hyn eisoes yn digwydd yn Lloegr gyda swyddogion yn dweud fod nifer o hen fynwentydd yn disgyn yn adfail gan nad oes cyllid digonol ac adnoddau addas i warchod y safleoedd. 

Image
Sara Roberts
Y Parchedig Sara Roberts

“Yr her ydi bob blwyddyn mae’r costau yn codi ac mae’r angen i glirio’r safleoedd yn mynd yn fwy o faich i’r gynulleidfa sy’n mynd yn llai bob blwyddyn”, meddai'r Parchedig Sara Roberts, Caplan Bro Ogwen. 

“Os ydi’r eglwys wedi cau a’r fynwent yn llawn does dim modd cael mwy o arian yn dod i mewn drwy claddedigaethau ond mae’r costau cynnal a chadw dal yna gyda llai o bres yn dod i mewn”. 

Drwy Gymru mae’r Eglwys yn dweud bod cannoedd o fynwentydd tebyg ac enghraifft o un ar gyrion Bethesda – Tanysgafell- sydd bellach yn adfail. 

Yno mae nifer o gerrig beddi wedi disgyn a choed a chwyn yn tyfu dros yr ardal hefyd. 

Yn ôl y Parchedig Sara Roberts, mater o sicrhau cyllid i ddod â pharch i’r meirw ydi’r cynnig newydd. 

“Mater o barch ydi o i ddeud y gwir," meddai.

“Mae ganddo ni gyfrifoldeb tuag at y genhedlaeth sydd wedi bod”.

Image
Yr Hybarch Robert Townsend, Archddiacon Meirionnydd
Yr Hybarch Robert Townsend, Archddiacon Meirionnydd

Mi fydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ddechrau Ionawr ac yn ôl y Canon Robert Townsend mae’r angen i newid y drefn yn fawr. 

“Mae ‘na rhai mynwentydd sydd wedi cau yn cael eu hedrych ar eu hol ac mi yda ni’n ddiolchgar i rai cynghorau cymuned ac awdurdodau lleol sydd yn cyfrannu," meddai.

“Ond nid pawb sy’n gwneud hynny felly fydde’n golygu bod yr arian.... wel sa ni’n gallu defnyddio arian at pethau eraill yn hytrach nag edrych ar ôl tir."

Image
mynwent
Ar hyn o bryd, pan mae mynwentydd yn llawn mae’n rhaid i’r plwyf gynnal a chadw, trwsio a gwarchod y mynwentydd. 

Ond rhybuddio mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru bod y darlun cyllidebol eisoes yn heriol. 

“Mae awdurdodau lleol yn cydnabod pwysigrwydd cynnal a chadw mynwentydd cymunedol, ond mae cynghorau eisoes dan bwysau ariannol sylweddol," medden nhw.

"Rhaid i unrhyw gynigion i drosglwyddo cyfrifoldebau ychwanegol, fel cynnal a chadw mynwentydd sydd wedi cau, ddod gyda chyllid llawn a chynaliadwy i sicrhau y gall cynghorau gyflawni'r dyletswyddau hyn heb effeithio ar wasanaethau hanfodol eraill."

Mi fydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ar 9 Ionawr 2025. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.