'Haeddu mwy o barch': Athrawon yn protestio dros ymddygiad plant
Fe gynhaliodd athrawon brotest tu allan i’r Senedd ddydd Iau dros ymddygiad rhai disgyblion yn eu hysgolion.
Mae athrawon o ysgolion Nantgwyn, Rhondda Cynon Taf ac Ysgol Abersychan ym Mhont-y-pŵl, Torfaen wedi bod yn streicio dros y sefyllfa.
Mae’n nhw’n rhan o undeb athrawon yr NASUWT sy’n dweud nad yw eu cyflogwyr yn cymryd iechyd a lles athrawon “o ddifrif”.
Yn ôl un athro o Ysgol Abersychan, mae angen “mwy o gefnogaeth tu fas o'r ysgol oddi wrth aelodau'r Senedd - ni moyn iddyn nhw i weld beth mae ysgolion yn delio gyda ar hyn o bryd”.
“Da' ni'n teimlo ein bod ni wedi dod i arfer â'r problemau sydd gyda ni yn yr ysgol nawr a dyw e ddim yn deg,” meddai.
"Ni'n delio ‘da pethau pob dydd…mae plant yn rhegi, maen nhw'n galw enwau ar y staff.
“Mae rhan fwyaf o'n plant ni yn anhygoel a da’ ni yma heddiw i gael llais ar gyfer nhw hefyd - ddim jyst ni.
“Da' ni'n teimlo fel eu bod nhw'n haeddu cael ysgol sy'n hapus a ble mae pawb yn teimlo'n ddiogel."
Fe wnaeth athro arall ddweud: “Nid yn unig ymddygiad lefel-uwch rydym yn ei weld, ond hefyd ymddygiad lefel-isel.
“Allan yn y gymuned, gall hyn cael ei gymryd fel ymddygiad anghymdeithasol ond pan dyw hyn ddim yn cael ei herio na’i gosbi yn yr ysgol, mae’n anfon y neges i’r myfyrwyr yna bod eu hymddygiad yn dderbyniol.”
Ymddygiad treisgar
Yn ôl yr NASUWT, mae eu haelodau wedi “goddef gormod o’r sefyllfa barhaus yma lle nad yw’r cyflogwyr yn cymryd effaith ymddygiad treisgar a chamdriniol disgyblion ar iechyd a lles athrawon o ddifrif”.
Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol NASWUT Dr. Patrick Roach: “Ni ddylai unrhyw athro orfod dioddef y fath gamdriniaeth yn y gweithle a byddwn ni, NASUWT, bob amser yn cefnogi ein haelodau pan fydd eu cyflogwyr yn methu.”
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae unrhyw fath o drais neu gamdriniaeth yn erbyn staff neu ddisgyblion yn ein hysgolion yn gwbl annerbyniol.
“Dylai ysgolion fod yn fannau diogel i ddysgwyr a staff ac mae gan bob lleoliad addysg yng Nghymru ddyletswydd gyfreithiol i ddarparu amgylchedd dysgu diogel.
"Rydym yn gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu cynigion i wella ymddygiad, gan gynnwys cynnal uwchgynhadledd ar y pwnc."