Newyddion S4C

Wrecsam: Cynnal ymgynghoriad ar gyfyngiad cyflymder 20mya

13/12/2024
Wrecsam

Bydd ymgynghoriad cyhoeddus yn dechrau yn Wrecsam ddydd Gwener ar y cyfyngiad cyflymder 20mya ar rai o'r ffyrdd yn y sir.

Mae Cyngor Wrecsam wedi asesu'r ffyrdd 20mya sy'n cael eu hawgrymu i'w hadolygu er mwyn gweld pa rai sy'n gymwys i gael eu hystyried i'w newid yn ôl i 30mya. 

Mae dros 50 o ffyrdd yn y sir o dan ystyriaeth i'w newid yn ôl i fod yn rhai 30mya. 

Bydd ymgynghoriad cyhoeddus yn dechrau ddydd Gwener fel rhan o'r broses Gorchymyn Rheoleiddio Traffig (TRO).

Mae awdurdodau lleol ledled Cymru wrthi'n adolygu adborth gan bobl, busnesau a chymunedau i sicrhau bod 20mya wedi'i dargedu ar y ffyrdd cywir. 

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: "Rwy'n falch o weld Cynghorau'n gwrando ar farn pobl ac yn gwneud cynnydd o ran adolygu'r ffyrdd yn eu hardaloedd y maen nhw'n credu y gellid eu newid yn ddiogel yn ôl i 30mya.

"Prif amcan y polisi yw achub bywydau a lleihau nifer y bobl sy'n cael eu hanafu – ac mae tystiolaeth eang ei fod yn gwneud hynny, fodd bynnag, mae hyn yn ymwneud â chael y cyflymderau cywir ar y ffyrdd cywir, gan adeiladu o'r consensws eang mai 20mya sy'n iawn lle mae pobl yn byw, yn gweithio ac yn chwarae."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.