Newyddion S4C

Dyn oedrannus wedi marw yn dilyn tân yng Ngheredigion

Gwasanaeth Tan

Mae dyn oedrannus wedi marw yn dilyn tân mewn eiddo yng Ngheredigion.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i eiddo yn Nre-fach ger Llanybydder ddydd Mawrth.

Dywedodd Heddlu Dyfed Powys fod y difrod i’r eiddo yn eang a bod dyn 83 oed wedi marw yn y fan a'r lle.

Dywedodd y llu fod ymchwiliad i achos y tân ar waith gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Ychwanegodd y llu bod disgwyl i ymchwilwyr fod yn bresennol yn yr eiddo dros y penwythnos.

Dywedodd llefarydd: “Nid yw’r tân, a gafodd ei gyfyngu i un eiddo, yn cael ei drin fel un amheus ar hyn o bryd.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.