Dyn yn y llys ar gyhuddiad o ymosodiad rhyw mewn ysbyty yn y gogledd
Mae dyn 38 oed wedi ymddangos yn y llys wedi ei gyhuddo o ymosodiad rhyw ar ddynes a’i hanafu'n fwriadol mewn ysbyty yng ngogledd Cymru.
Cafodd Heddlu’r Gogledd eu galw i Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan nos Fawrth.
Fe wnaeth Lee James Cullen o Ffordd yr Eglwys, Fflint, wadu’r cyhuddiadau yn ei erbyn pan ymddangosodd gerbron Ynadon Llandudno.
Cafodd ei gadw yn y ddalfa tan fis Ionawr pan fydd disgwyl iddo ymddangos gerbron Llys y Goron Yr Wyddgrug.
Ni wnaeth cyfreithiwr Mr Cullen, Nia Dawson, unrhyw gais am fechnïaeth.
Ni chafodd manylion llawn y cyhuddiadau eu cyflwyno.