Cymru i ddarganfod eu gwrthwynebwyr yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd
Bydd Cymru yn darganfod eu gwrthwynebwyr yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2026 ddydd Gwener.
Bydd 16 o genhedloedd UEFA yn Ewrop yn cystadlu yn y gystadleuaeth a fydd yn cael ei chynnal yng Nghanada, Mecsico a UDA yn 2026.
Fe fydd tîm Craig Bellamy ym mhot dau ddydd Gwener, ac fe fyddant yn chwarae mewn grŵp o bedwar neu bum tîm.
Bydd y gemau yn cael eu chwarae rhwng mis Mawrth a Thachwedd 2025, gyda'r timau ar frig pob un o'r 12 grŵp yn cymhwyso yn awtomatig ar gyfer y gystadleuaeth.
Bydd y pedwar lle arall yn cael eu penderfynu gan gemau ail-gyfle ar gyfer y timau sydd yn yr ail safle ymhob grŵp ynghyd â phedwar enillydd gorau Cynghrair y Cenhedloedd sydd heb orffen yn gyntaf neu'n ail.
Bydd y gemau ail-gyfle hyn yn cael eu cynnal ym mis Mawrth 2026.
Fe wnaeth Cymru sicrhau dyrchafiad i haen uchaf Cynghrair y Cenhedloedd ar ôl ennill eu grŵp ym mis Tachwedd.
Mae dyrchafiad i'r haen uchaf yn golygu fwy neu lai yn sicr y bydd yna gêm ail-gyfle i Gymru gyrraedd Cwpan y Byd.