Newyddion S4C

Atal y Fedal Ddrama 'er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â deddfwriaeth gwlad'

Ashok Ahir / Medal Ddrama

Fe gafodd cystadleuaeth y Fedal Ddrama yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni ei hatal “er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â deddfwriaeth gwlad,” yn ôl aelod o fwrdd rheoli’r Brifwyl.

Mewn datganiad a gafodd ei ryddhau ddydd Iau, fe wnaeth Ashok Ahir, Llywydd y Llys a Chadeirydd y Bwrdd Rheoli ymddiheuro am “unrhyw ofid a grewyd” yn sgil y penderfyniad i ddiddymu’r gystadleuaeth a'r seremoni.

Yn dilyn beirniadaeth o'r hyn ddigwyddodd ym Mhontypridd bedwar mis yn ôl, fe gafodd llythyr agored gyda 250 o lofnodion ei anfon at Gyngor a Bwrdd yr Eisteddfod yn galw am “sicrwydd o drefn Eisteddfod”.

Wrth ymateb, dywedodd Mr Ahir: “Rydym yn gwerthfawrogi fod y penderfyniad i atal cystadleuaeth y Fedal Ddrama’n parhau yn bwnc llosg i nifer.

“Rydym wedi gwrando yn ofalus ar y feirniadaeth sydd wedi ei gylchredeg yn barod, ac yn derbyn na fu i’n datganiadau cynt leddfu gofidiau nifer o bobl am y penderfyniad.

“Bwrdd Ymddiriedolwyr yr Eisteddfod, a’r Bwrdd yn unig, sydd yn gyfrifol am y penderfyniad hwn.

“Ni ddylid felly beirniadu unrhyw wirfoddolwyr sy’n ymwneud â’r Eisteddfod nac ychwaith y staff.”

Cafodd trafodaeth gan banel canolog Theatr yr Eisteddfod ei chynnal ym mis Tachwedd, “i drafod cynrychiolaeth yn y theatr yng Nghymru”.

Ymddiheuro

Yn ôl y datganiad, mae’r Eisteddfod nawr wedi “diwygio ein prosesau, rheolau a’n hamodau o ran y cystadlaethau.”

“Rydym yn ymddiheuro am unrhyw ofid a grewyd oherwydd ei bod yn ymddangos fod yr egwyddor o gystadlu o dan ffugenw, ac yn y dirgel wedi ei danseilio am resymau annilys,  diangen, neu oherwydd sensoriaeth, gan yr Eisteddfod,” ychwanegodd Mr Ahir.

"Nid felly yr oedd pethau. Daeth consyrn cwbl ddilys a di-gynsail i’r fei a oedd yn cyfiawnhau’r angen i ni wneud ymholiadau pellach. 

"Yn dilyn hyn, penderfyniad y Bwrdd oedd arfer eu hawl i atal y gystadleuaeth yn ei chyfanrwydd er gwarchod pawb ynghlwm â hi, ac er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â deddfwriaeth gwlad. 

"Bu inni ymddwyn yn unol â rheolau ac amodau'r Eisteddfod wrth gymryd y cam hwn. Rheidrwydd oedd gweithredu fel y gwnaethom,  oherwydd ein dyletswyddau fel ymddiriedolwyr er lles yr elusen, ac uniondeb y broses gystadlu.  

"Fel y nodwyd ym mis Awst, ein dyletswydd yw sicrhau bod canllawiau priodol gennym i osgoi sefyllfaoedd o’r fath rhag codi yn y dyfodol."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.