Newyddion S4C

Gwynedd: Cynlluniau am siglen fwya’r byd i Zip World

Zip World Bethesda

Mae Zip World wedi cyflwyno cynlluniau i agor atyniad newydd sbon y mae’n dweud fyddai’r “mwyaf o’i fath yn y byd”.

Dywedodd y cwmni antur o ogledd Cymru y byddai’r reid, sydd wedi’i henwi mewn dogfennau cynllunio a gyflwynwyd i Gyngor Gwynedd fel “Y Swing”, yn gweld ymwelwyr yn troi yn ôl ac ymlaen dros dirwedd lechi hanesyddol ar safle Chwarel y Penrhyn ym Methesda.

Dywedodd Zip World fod yr atyniad newydd arfaethedig yn rhan o’r angen i “barhau i fod yn berthnasol a denu ymwelwyr newydd ac ail-ymwelwyr”.

Ychwanegodd y cwmni y byddai’r reid yn rhoi hwb sylweddol i economi’r ardal ac “yn llai agored i wyntoedd cryfion na’r llinell sip a byddai’n darparu dewis arall ar gyfer tywydd gwael.”

Mae’r cynlluniau’n honni fod y busnes yn dod â £276m i economi Cymru.

Byddai’r gweithgaredd wedi’i leoli o fewn safle chwarel presennol Zip World gan ehangu ar draws llyn y chwarel.

Mae'r cynlluniau'n galw am godi llwyfan swing, strwythur, ramp a strwythur glanio, ceblau cysylltiedig a strwythurau angori gyda gwaith cysylltiedig.

Image
Y Swing Zip World
Mae Zip World eisiau cyflwyno reid newydd "Y Swing"

Unwaith y bydd ymwelwyr yn y man cychwyn bydd y siglen yn disgyn o dan ddisgyrchiant, yna’n siglo yn ôl ac ymlaen nes dod i orffwys naturiol, ac yna'n symud yn ôl i'r platfform.

Mae disgwyl i'r gweithgaredd bara dwy funud.

Dywedodd y cwmni: “Mae Zip World yn cyflogi 270 o staff llawn amser, gyda 82% ohonynt yn byw ger eu gweithle, gyda 65% ohonynt yn siaradwyr Cymraeg.”

Ychwanegodd y cwmni bod gostyngiad yn y nifer o ymwelwyr o 2023 i 2024 a bod “y diwydiant twristiaeth antur yn esblygu”.

 “Er mwyn parhau i fod yn berthnasol a denu ymwelwyr newydd, mae Zip World yn cydnabod yr angen iddyn nhw esblygu hefyd,” medden nhw.

Dywedodd y cwmni fod yr atyniad yn bwysig i ddenu pobl i ymweld ag atyniadau eraill ar drafnidiaeth gyhoeddus gan ddefnyddio rhwydwaith eFws ar draws y rhanbarth.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.