Porthladd Caergybi i barhau ar gau am wythnos arall
Porthladd Caergybi i barhau ar gau am wythnos arall
Fe ddaeth cadarnhad nos Iau y bydd Porthladd Caergybi ar gau am wythnos arall ac ni fydd yn ail agor tan o leiaf ddydd Iau 19 Rhagfyr.
Mae yna bryder yng Ngweriniaeth Iwerddon am brinder anrhegion a nwyddau Nadolig eraill ar ôl cau porthladd Caergybi yn dilyn Storm Darragh.
Mewn datganiad ddydd Iau, dywedodd Stena Line: "Yn sgil digwyddiad yn ystod Storm Darragh ddydd Sadwrn diwethaf a wnaeth achosi difrod i isadeiledd y porthladd, fe fydd Porthladd Caergybi bellach ar gau tan 20 Rhagfyr tra bod asesiad trylwyr yn cael ei gynnal.
"Rydym yn gwbl ymwybodol o’r effaith y mae’r sefyllfa hon yn ei chael ar eich busnes ac rydym yn gwneud popeth posibl i ychwanegu teithiau cludo nwyddau ychanegol o'n porthladdau eraill ym Mhenbedw, Cairnryan, Heysham ac Abergwaun i gadw’r traffig cludo nwyddau i symud ar yr adeg brysur yma o'r flwyddyn."
Cyhoeddwyd ddydd Llun bod y porthladd ar gau ac mae'r gwaith trwsio yn cael ei gydlynu gan Awdurdod y Porthladd, Stena Line, Irish Ferries, Llywodraeth Cymru, a Chyngor Sir Ynys Môn.
Mae Cymdeithas Allforwyr Iwerddon wedi galw am weithredu brys i ailagor gwasanaethau, gan ddweud ei fod yn gyswllt masnach hanfodol rhwng Iwerddon a’r DU.
“Mae’r cau eisoes wedi achosi cryn aflonyddwch, gan effeithio ar gadwyni cyflenwi, busnesau, a defnyddwyr fel ei gilydd,” meddai’r gymdeithas.
“Gallai unrhyw oedi pellach effeithio ar argaeledd rhai eitemau yn y cyfnod cyn y Nadolig.”
Dywedodd Simon McKeever, prif weithredwr y grŵp cynrychioliadol, wrth bapur newydd yr Irish Independent y byddai yn cymryd dyddiau i glirio'r dagfa o nwyddau yng Nghaergybi.
“Mae’r cludwyr yn dweud fod yna lawer o nwyddau ar gyfer y Nadolig yn eistedd yng Nghaergybi ar hyn o bryd,” meddai.
“Cefais sgwrs hir gydag un o’r cludwyr sydd â bag o nwyddau cymysg iawn, yn dod i mewn ac allan, ac fe ddywedon nhw ei fod yn dipyn o bopeth.
“O safbwynt y gadwyn gyflenwi, mae eitemau sydd eu hangen wrth gynhyrchu i gyd yn sownd. Mae’n whammy dwbl i’r diwydiant allforio gan nad yw’r trelars ar gael i fynd yn ôl allan.”