Carchar am 22 mlynedd i ddyn am ymosodiad rhyw yn erbyn plentyn
Mae dyn 49 oed wedi’i garcharu am fwy na dau ddegawd am ymosodiad rhyw difrifol yn erbyn plentyn yng ngogledd Cymru.
Cafwyd Guy Lawrence Miles, o Palmerston Road, Bournemouth, yn euog o dri chyhuddiad o dreisio ac ymosod yn anweddus, gan Lys y Goron Caernarfon ddydd Iau.
Cafodd ei ddedfrydu i 22 mlynedd yn y carchar.
Fe lansiodd yr heddlu ymchwiliad i Miles ym mis Chwefror 2021 yn dilyn adroddiad ei fod wedi treisio plentyn ar ddiwedd y nawdegau ym Mangor.
Ar ôl meithrin perthynas amhriodol â’r dioddefwr, aeth ymlaen i ymosod arni’n dreisgar a’i cham-drin dros ddwy flynedd, gan adael gormod o ofn arni i amddiffyn ei hun neu adrodd amdano.
Pan ddychwelodd i ardal Bangor yn oedolyn rai blynyddoedd yn ddiweddarach, fe wnaeth Miles ei dilyn a’i tharo’n anymwybodol cyn iddo gael ei erlid i ffwrdd gan aelodau’r cyhoedd.
Fe fydd yn rhaid i Miles dreulio dwy ran o dair o'i ddedfryd cyn cael ei ystyried ar gyfer ei ryddhau.
Cafodd hefyd orchymyn atal amhenodol er mwyn amddiffyn y dioddefwr a gorchymyn atal niwed rhywiol am 30 mlynedd.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Chris Renshaw: “Roedd hwn yn achos erchyll lle y gwnaeth dyn llawer hŷn feithrin perthynas amhriodol gyda phlentyn bregus ac fe wnaeth y plentyn ddioddef y trais rhywiol mwyaf ofnadwy dros gyfnod hir.
“Hoffwn ddiolch iddi am ei dewrder wrth riportio’r troseddau a darparu tystiolaeth o dan amgylchiadau mor anhygoel o anodd.
“Rwy’n gobeithio y gall y dioddefwr ddod o hyd i rywfaint o gysur yn y ddedfryd heddiw a dechrau symud ymlaen â’i bywyd heb unrhyw ofn pellach.
“Anogir unrhyw un sydd wedi dioddef cam-drin rhywiol, waeth pa mor bell yn ôl, i ddod ymlaen. Bydd rhywun yn gwrando arnoch chi ac yn cael cefnogaeth lawn.”