2025 fydd 'un o'r blynyddoedd poethaf erioed' meddai'r Swyddfa Dywydd
Mae disgwyl i’r flwyddyn nesaf fod ymhlith y blynyddoedd poethaf erioed, meddai’r Swyddfa Dywydd.
Cyhoeddodd y Swyddfa Dywydd eu rhagolygon ar gyfer 2025 ddydd Iau, ac maen nhw'n awgrymu y bydd 2025 yn un o’r tair blynedd gynhesaf a gofnodwyd erioed.
Mae disgwyl y bydd y tymheredd cyfartalog byd-eang tua 1.4°C yn uwch na’r lefel cyn-ddiwydiannol, sydd ychydig yn is nac yn 2024 a 2023.
Y disgwyl yw mai eleni fydd y flwyddyn gynhesaf a gofnodwyd erioed ac mae bellach bron yn sicr o godi'n uwch na 1.5C uwchlaw’r cyfnod cyn-ddiwydiannol am y tro cyntaf.
Mae'n golygu y bydd 2024 yn curo'r record flaenorol o 1.45°C a osodwyd yn 2023.
Newid yn yr hinsawdd yw'r prif yrrwr ar gyfer y gwres uchaf erioed.
Ond mae'r tymereddau byd-eang yn 2023 a 2024 hefyd wedi codi o ganlyniad i beoses naturiol El Nino, sy'n cynhesu atmosffer y Ddaear, meddai'r arbenigwyr.
Dywedodd Dr Nick Dunstone o’r Swyddfa Dywydd, a arweiniodd y gwaith o gynhyrchu’r rhagolwg: “Flwyddyn yn ôl roedd ein rhagolwg ar gyfer 2024 yn amlygu’r siawns gyntaf o fynd y tu hwnt i 1.5°C.
“Er ei bod yn ymddangos bod hyn wedi digwydd, mae’n bwysig cydnabod nad yw mynd uwchlaw 1.5°C dros dro yn golygu torri Cytundeb Paris.
“Ond mae’r flwyddyn gyntaf uwchben 1.5C yn sicr yn garreg filltir sobreiddiol yn hanes yr hinsawdd."
Er bod y Môr Tawel yn symud i gyfnod oerach La Nina, mae disgwyl o hyd i 2025 weld tymereddau byd-eang cyfartalog ymhell uwchlaw unrhyw beth a welwyd cyn 2023.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd ei bod yn defnyddio cyfartaledd 20 mlynedd i asesu lefelau cynhesu byd-eang presennol, gan gynnwys rhagamcanion hinsawdd y dyfodol ac arsylwadau diweddar, a oedd ar hyn o bryd yn rhoi cyfartaledd hirdymor o 1.3C yn uwch na'r cyfnod cyn-ddiwydiannol 1850-1900.