Teulu’n diolch ar ôl dod o hyd i gorff deifiwr aeth ar goll ym Mhen Llŷn
Mae teulu deifiwr aeth ar goll ym Mhen Llyn fis diwethaf wedi diolch ar ôl i’r heddlu ddod o hyd i’w gorff.
Dywedodd Heddlu’r Gogledd eu bod nhw wedi dod o hyd i gorff Imrich Magyar, 53 oed o ardal Warrington yn ardal Llangwnnadl ym Mhwllheli ar ddydd Sadwrn, 7 Rhagfyr.
Doedden nhw ddim yn credu bod yr amgylchiadau yn rhai amheus.
Dywedodd aelod o'r teulu: "Diolch i'r heddlu, gwylwyr y glannau, y Bad Achub a phawb arall am helpu chwilio am Imrich.
“Mae'r teulu yn ddiolchgar am yr holl ymdrech a wnaed ac i'r bobl a ddaeth allan i helpu.
“Diolch i'r heddlu a swyddfa'r crwner am eu cefnogaeth a'u cymorth i'r teulu. Diolch i bawb."
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Andrew Gibson: "Rydym yn estyn ein cydymdeimlad at deulu a chyfeillion Imrich, sydd wedi gofyn am breifatrwydd yn ystod y cyfnod anodd hwn.
“Hoffwn ddiolch i'r gymuned leol am eu cymorth yn ystod y chwilio."
Cafodd Gwylwyr y Glannau adroddiad am 13.15 ar 28 Tachwedd fod pryderon am ddiogelwch deifiwr yn y môr, ger Porth Ysgaden, Tudweiliog.
Cafodd hofrennydd ac awyren Gwylwyr y Glannau eu galw i’r lleoliad i chwilio am yr unigolyn, yn ogystal â thimau Gwylwyr y Glannau Porthdinllaen, Aberdaron, Abersoch a Llandwrog.
Cafodd criw Bad Achub Porthdinllaen a Heddlu’r Gogledd hefyd eu galw i gynorthwyo gyda'r ymdrechion.