Newyddion S4C

Hyfforddi Cymru? 'Byddai'n well gen i Iwerddon, Lloegr neu Ffrainc'

10/12/2024
Ronan O'Gara (Wochit/AFP)

Mae cyn-chwaraewr rygbi Iwerddon Ronan O’Gara wedi dweud nad oes ganddo ddiddordeb i fod yn brif hyfforddwr Cymru.

Daw ei sylwadau wedi iddo ddweud fod ganddo ddiddordeb cael ei benodi yn brif hyfforddwr ar dîm rhyngwladol.

Fe wnaeth Cymru golli eu 12fed gêm ryngwladol yn olynol gyda cholled yn erbyn De Affrica yn Stadiwm y Principality ym mis Tachwedd.

Roedd Cymru eisoes wedi colli yn erbyn Awstralia a Ffiji yng Nghyfres yr Hydref, gan gynyddu’r pwysau ar y prif hyfforddwr, Warren Gatland. 

Mae O’Gara ar hyn o bryd yn brif hyfforddwr clwb La Rochelle tan 2027 yn Ffrainc.

Ond mae’n dweud ei fod yn agored i siarad gyda thimau rhyngwladol Iwerddon, Lloegr neu Ffrainc pe bai cyfle am swydd yn codi.

Fe chwaraeodd O’Gara 128 gêm dros Iwerddon, gan hefyd gynrychioli’r Llewod, ac mae eisoes wedi siarad yn gyhoeddus am ei obaith o reoli tîm cenedlaethol.

Wrth gael ei holi os byddai’n bwriadu ymgeisio am rôl gyda Chymru pe bai newidiadau i dîm hyfforddi Warren Gatland, dywedodd O’Gara: “Dwi heb feddwl am hynny, i fod yn onest.

“Yn y ffordd fwyaf diymhongar, byddai’n well gen i Iwerddon, Lloegr neu Ffrainc.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.