Arestio dau oedd yn galw am ‘intifada’ ar ôl newid i ddulliau gweithredu yr heddlu
Mae dau berson wedi cael eu harestio wrth alw am ‘intifada’ yn Llundain ar ôl i Heddlu’r Met benderfynu newid ei ddulliau gweithredu.
Dywedodd Heddlu’r Met yn Llundain a Heddlu Manceinion ddydd Mercher y bydd unigolion sy’n defnyddio sloganau o’r fath yn wynebu cael eu harestio.
Daeth y penderfyniad gan y ddau heddlu yn sgil ymosodiad terfysgol ar draeth Bondi yn Awstralia, a’r ymosodiad terfysgol yn synagog Heaton Park ym Manceinion ar Hydref 2.
Fe gafodd y dynion eu harestio yn ystod protest o blaid Palesteina y tu allan i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn San Steffan, Llundain, nos Fercher.
Cafodd trydydd person ei arestio am “rwystro” yr heddlu yn y fan a’r lle.
Mae Prif Rabi’r DU, Syr Ephraim Mirvis, wedi croesawu’r penderfyniad i arestio pobl sy’n defnyddio sloganau o’r fath, gan ddweud ei fod yn “gam pwysig tuag at herio rhethreg casineb” ym Mhrydain.
Mae’r cyhoeddiad wedi ei gondemnio gan rai ymgyrchwyr.
Dywedodd Ben Jamal o Ymgyrch Undod Palesteina ei fod yn ymyrryd â’r hawl i brotestio.
Roedd y gair intifada yn golygu “gwrthryfela yn erbyn anghyfiawnder,” meddai.
Mae Pwyllgor Iddewig America wedi disgrifio’r ymadrodd fel un sy’n cael ei “ddefnyddio gan ymgyrchwyr o blaid Palesteina i alw am wrthwynebiad ymosodol yn erbyn Israel a’r rhai sy’n cefnogi Israel”.
Traeth Bondi
Fe gafodd y dyn sy'n cael ei amau o saethu nifer yn nhraeth Bondi ei gyhuddo ddydd Mercher.
Mae Naveed Akram yn wynebu 59 cyhuddiad gan gynnwys 15 o lofruddiaeth ac un o weithredu terfysgol.
Fe gafodd Akram ei anafu yn ystod yr ymosodiad.
Mae Akram hefyd yn wynebu 40 o gyhuddiadau o achosi niwed corfforol difrifol gyda'r bwriad o lofruddio ac un cyhuddiad o arddangos symbol mudiad terfysgol sydd wedi ei wahardd.
Cafodd y dyn arall wnaeth saethu at bobl ar y traeth sef ei dad, Sajid Akram ei ladd gan yr heddlu yn ystod yr ymosodiad.
Fe fuodd 15 o bobol farw yn ystod yr ymosodiad ddydd Sul.
Mae 20 o bobl yn parhau yn yr ysbyty wedi eu hanafu gydag un person mewn cyflwr difrifol.
Llun: Heddlu'r Met mewn protest o blaid Palesteina yr wythnos hon. PA/ Rosie Shead.