'Gofal drwy'r Gymraeg': Cam yn nes at adeiladu cartref gofal newydd ym Mhen Llŷn

Pentref Pwylaidd Penrhos

Mae cynllun i adeiladu cartref gofal newydd ym Mhen Llŷn gam yn nes at gael ei wireddu.

Bwriad Cyngor Gwynedd yw datblygu cartref gofal ar ddarn o dir ar safle Pentref Pwylaidd Penrhos ar gyrion Pwllheli.

Daw'r datblygiad ar ôl i Gabinet Cyngor Gwynedd drafod y cam nesaf yn y broses o sicrhau buddsoddiad gwerth £16.4 miliwn gan Lywodraeth Cymru.

Mae'r cyngor yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ddatblygu'r fenter a fydd yn darparu gofal nyrsio a phreswyl.

Bydd y cartref gofal yn cynnwys 32 o welyau dementia preswyl a 24 o welyau nyrsio, gydag wyth ohonynt yn welyau dementia nyrsio.

Mae'r cartref yn cael ei ddatblygu ynghyd â chynlluniau'r gymdeithas tai ClwydAlyn i adeiladu cartrefi yno, gan gynnwys tai fforddiadwy i bobl leol.

Bydd y datblygiad tai yn darparu cartrefi yn bennaf i bobl ag anghenion cefnogaeth a gofal, gan gynnwys preswylwyr presennol Pentref Pwylaidd Penrhos. 

'Gofal drwy'r Gymraeg'

Dywedodd y Cynghorydd Angela Russell, aelod lleol dros Lanbedrog a Mynytho, bod y datblygiad yma yn "golygu llawer" iddi.

"Rydyn ni’n gwybod yn iawn pa mor anodd yw hi i deuluoedd pan nad oes gwelyau gofal ar gael yma ym Mhen Llŷn – mae pobl yr ardal yn gorfod symud i ffwrdd o’u cartrefi a’u cymuned pan maen nhw fwyaf bregus," meddai. 

"Dyna pam mae’r prosiect hwn mor bwysig i ni fel cymuned oherwydd bydd yn sicrhau gofal drwy’r Gymraeg yn lleol. 

"Bydd cyllid gan Lywodraeth Cymru yn golygu y gallwn adeiladu dyfodol lle mae pobl yn cael gofal o ansawdd uchel yn eu milltir sgwâr."

Mae Angela Wood, cyfarwyddwr gweithredol nyrsio ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, hefyd wedi croesawu'r datblygiad.

"Rydym wrth ein bodd i fod yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Gwynedd ar y prosiect cyffrous ac arloesol hwn i ddarparu mwy o ofal nyrsio a dementia yn agosach at gartrefi a theuluoedd pobl ym Mhen Llŷn," meddai.

"Y nod yw cynyddu'r dewis sydd ar gael i gleifion yn yr ardal a fydd yn gwella llif cleifion a rhyddhau amserol o'r ysbyty ac yn y pen draw yn helpu pobl i aros yn eu cymunedau."

Gyda’r Cabinet yn cymeradwyo’r achos busnes amlinellol, bydd modd sicrhau cyllid gwerth dros £16 miliwn gan Lywodraeth Cymru. 

Bydd hyn yn caniatáu i swyddogion y cyngor i fwrw ymlaen gyda’r cais i’r llywodraeth ac i gyflwyno cais cynllunio ffurfiol yng ngwanwyn 2026.

Y gobaith yw dechrau’r gwaith adeiladu yn ystod 2027, gyda'r cartref yn barod i groesawu’r trigolion cyntaf yn 2029. 

Mae cysylltiad y Pwyliaid a Phen Llŷn yn mynd yn ôl i’r Ail Ryfel Byd, pan ymsefydlodd peilotiaid ar y safle. 

Yn ddiweddarach, cafodd ffoaduriaid Pwylaidd eu cartrefu yno. 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.