Ysgol Dyffryn Ogwen ar gau tan 2026 wedi ‘difrod sylweddol’ i’r to

YDO.jpg

Mae swyddogion wedi cadarnhau y bydd Ysgol Dyffryn Ogwen yng Ngwynedd yn parhau i fod ar gau tan y flwyddyn newydd ar ôl i do’r ysgol gael ei ddifrodi yn ystod Storm Bram wythnos diwethaf.

Mewn datganiad ar gyfrif Facebook yr ysgol, fe gadarnhaoedd swyddogion yr ysgol na fydd y safle ar agor am weddill yr wythnos gan olygu na fydd ar Ysgol Dyffryn Ogwen ar agor tan y flwyddyn newydd.

Er hynny, mae'r ysgol wedi dweud fod y gwaith o addysgu'r disgyblion yn parhau i gael ei osod ar-lein tan ddiwedd dydd Gwener, pan fydd ysgolion y sir yn cau ar gyfer y Nadolig.

Fe gadarnhaodd y cyngor ddydd Mawrth mai llechi oedd wedi disgyn, a bod rhai llechi yn ansefydlog oedd yn gyfrifol am orfod cau'r ysgol.

“Dechreuodd y gwaith asesu ac atgyweirio ar y safle yn syth, ond mae’r tywydd garw pellach dros y dyddiau diwethaf wedi oedi rhywfaint ar y gwaith," medden nhw.

Mae Cyngor Gwynedd wedi derbyn cais am ymateb heddiw.

Dywedodd yr ysgol fod cyfnodau o wyntoedd cryf wedi golygu nad yw archwiliadau ar y safle wedi gallu cael eu cwblhau.

“Mae swyddogion o wasanaethau Addysg, Eiddo ac Iechyd a Diogelwch y Cyngor wedi bod yn cydweithio i adfer y sefyllfa fel gall disgyblion ddychwelyd yn ddiogel i’w hysgol cyn gynted a phosib," medden nhw.

"Yn y cyfamser, mae trefniadau wedi eu gwneud i ddarparu gwaith ar-lein i’r disgyblion.

“Ein blaenoriaeth yw diogelwch holl ddisgyblion a staff yr ysgol ac rydym yn ddiolchgar am gydweithrediad ac amynedd holl gymuned yr ysgol dros y cyfnod anodd a rhwystredig yma. Mae’r ysgol yn parhau i fod mewn cyswllt gyda theuluoedd i’w diweddaru am y gwaith.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.