Newyddion S4C

Efrog Newydd: Cyhuddo dyn 26 oed o ladd prif weithredwr cwmni yswiriant iechyd

10/12/2024
Luigi Mangione

Mae dyn 26 oed wedi'i gyhuddo o ladd prif weithredwr UnitedHealthcare Brian Thompson.

Cafodd Luigi Nicholas Mangione ei arestio ddydd Llun ar ôl i gwsmer mewn McDonald's yn nhref Altoona yn Pennsylvania ei adnabod.

Daeth yr heddlu o hyd iddo gyda gwn, mwgwd a nodiadau oedd yn ei gysylltu â'r ymosodiad yn Efrog Newydd ddydd Mercher diwethaf.

Fe ymddangosodd Mangione mewn llys yn Pennsylvania i gael ei arestio ar bum cyhuddiad cychwynnol a gwrthodwyd mechnïaeth iddo.

Ychydig oriau yn ddiweddarach, fe gafodd Mangione ei gyhuddo o lofruddiaeth a phedwar cyhuddiad arall, gan gynnwys cyhuddiadau'n ymwneud â drylliau.

Cafodd Mr Thompson, 50, ei saethu'n farw yn ei gefn y tu allan i westy'r Hilton yn Midtown Manhattan lle'r oedd UnitedHealthcare, y cwmni yswiriant meddygol yr oedd yn ei arwain, yn cynnal cyfarfod gyda'i fuddsoddwyr.

Mae’r heddlu’n credu bod yr ymosodiad wedi’i dargedu.

Roedd yr FBI wedi cynnig gwobr o $50,000 (£39,000) am wybodaeth fyddai'n arwain at arestio Mangione.

Prif lun: PA / Getty Images

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.