Newyddion S4C

Mynach wedi cam-drin plant ar ynys yn Sir Benfro am ddegawdau er gwaethaf honiadau

10/12/2024
Ynys Byr

Roedd mynach wedi cam-drin plant yn rhywiol mewn abaty ar ynys yn Sir Benfro er gwaethaf honiadau niferus yn ei erbyn, yn ôl adolygiad annibynnol.

Mae adolygiad annibynnol a gafodd ei gyhoeddi ddydd Mawrth wedi dod i'r casgliad bod y Tad Thaddeus Kotik wedi cael rhwydd hynt i gam-drin plant am ddegawdau ar Ynys Bŷr, sy’n gartref i gymuned o fynachod Sistersaidd.

Daw ar ôl i Kevin O'Connell ymgyrchu ers 2019 am adolygiad i honiadau ei fod ef ac eraill wedi cael eu camdrin ar yr ynys ar arfordir Sir Benfro. 

Bu farw'r Tad Thaddeus Kotik ym 1992 heb wynebu unrhyw gyhuddiadau troseddol i honiadau ei fod wedi cam-drin plant rhwng 1977 ac 1982. 

Fe gafodd chwech o'i ddioddefwyr honedig eu digolledu gan Abaty Ynys Bŷr mewn setliad y tu allan i'r llys ym mis Mawrth 2017. 

Ers hynny, mae nifer o bobl eraill wedi honni eu bod nhw wedi cael eu cam-drin. 

Mae arweinydd newydd yr abaty, y Tad Jan Rossey, wedi ymddiheuro am y dioddefaint a dywedodd fod mesurau wedi cael eu cyflwyno i wella diogelwch.

Casgliadau'r adroddiad

Yn ôl yr adolygiad, roedd "cyfleoedd wedi'u colli" i nodi'r cam-drin ac roedd diffyg arweinyddiaeth ar y lefel uchaf o fewn yr urdd a'r abaty.

"Mae'n ymddangos bod yna fethiant arweinyddiaeth ar y lefel uchaf o fewn yr urdd a'r abaty," meddai'r adroddiad.

"Ni chafodd materion difrifol o honiadau parhaus o gam-drin plant yn rhywiol gan Thaddeus Kotik eu hadrodd i’r awdurdodau statudol yn unol â’r gyfraith."

Roedd y rhain yn "gyfleoedd wedi'u colli", meddai’r adroddiad.

Fe aeth ymlaen i ddweud: "Mae’r amharodrwydd ymddangosiadol hwn i herio Thaddeus Kotik yn uniongyrchol i’w wyneb wedi ei alluogi i droseddu dros bedwar degawd yng ngolwg rhai o gymuned yr ynys.

"Treuliodd Thaddeus Kotik amser sylweddol gyda phlant ar ei ben ei hun, gyda theuluoedd yn eu cartrefi, gan feithrin perthynas amhriodol ag oedolion a phlant gydag anrhegion a sylw."

Ychwanegodd yr adolygiad, a gafodd ei arwain gan Jan Pickles, cyn-gomisiynydd cynorthwyol yr heddlu a throsedd gyda Heddlu De Cymru, bod ymateb gwrthwynebus yr abaty wedi niweidio dioddefwyr a'u teuluoedd ymhellach.

Mae Ms Pickles wedi gwneud cyfres o argymhellion gan gynnwys:

- Dylid ffurfioli cyswllt rhwng y gymuned fynachaidd a'r cyhoedd sy'n ymweld, ac fe ddylai cyswllt anffurfiol ddod i ben, gan gynnwys hunluniau.

- Dylid cryfhau’r trefniadau diogelu presennol drwy ychwanegu goroeswr neu oroeswyr cam-drin plant yn rhywiol i eistedd ar fwrdd yr ynys.

- Penodi gweithiwr diogelu proffesiynol dynodedig ar gyfer ymweliadau.

'Ymddiheuro'n ddiffuant'

Mae arweinydd newydd yr abaty, y Tad Jan Rossey, wedi ymddiheuro am y dioddefaint a dywedodd fod mesurau wedi cael eu cyflwyno i wella diogelwch.

"Ar ran y gymuned fynachaidd, rwy’n ymddiheuro’n ddiffuant i bawb sydd wedi cael eu brifo ac wedi dioddef oherwydd cam-driniaeth Thaddeus Kotik, yn ogystal â methiannau’r gorffennol wrth beidio ag amddiffyn plant a’u teuluoedd," meddai'r Tad Jan Rossey.

"Mae’n arbennig o ffiaidd pan fydd cam-drin yn cael ei gyflawni a’i guddio gan bobl sydd mewn safleoedd o ymddiriedaeth oherwydd eu galwedigaeth fynachaidd neu offeiriadol."

Ychwanegodd fod gwelliannau diogelu eisoes wedi'u gwneud ers iddo gael ei benodi'n abad.

Maen nhw'n cynnwys hyfforddiant i bawb ar yr ynys yn ogystal â gwiriadau DBS gorfodol. 

Mae'r manylion yn llawn ar wefan Ynys Bŷr ar ei thudalen diogelu.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.