Newyddion S4C

Gwynedd: Tri o bobl wedi eu cludo i’r ysbyty ar ôl gwrthdrawiad ‘difrifol’

10/12/2024
A487 Bryncir

Mae tri o bobl wedi eu cludo i’r ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad "difrifol" yng Ngwynedd.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r A487 rhwng Pantglas a Bryncir am 17.25 ddydd Llun wedi gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd.

Fe wnaeth Ambiwlans Awyr Cymru gludo person mewn hofrennydd i'r uned trawma difrifol yn Ysbyty Aintree, Lerpwl.

Cafodd dau berson eu cludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor.

Cafodd y ffordd ei chau dros nos wrth i ymchwiliadau gael eu cynnal.

Mae'r ffordd bellach wedi ei hail-agor.

Dywedodd y rhingyll Daniel Rees o Uned Troseddau Ffordd Heddlu Gogledd Cymru: “Rydym yn apelio am unrhyw dystion i’r gwrthdrawiad i ddod ymlaen.

“Fe hoffwn siarad gydag unrhyw un y byddai wedi bod yn teithio ar yr A487 ar yr amser penodol, sydd efallai gyda lluniau dash cam.”

Fe allai unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad gysylltu â Heddlu’r Gogledd, gan ddyfynnu’r cyfeirnod Q185332.

Llun: Google

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.