Newyddion S4C

‘Ry’n ni’n poeni’: Rhybudd am ddechrau anodd i 2025 i siopau Cymru

ITV Cymru
Siopau Caerfyrddin

Mae rhai o berchnogion siopau Cymru yn pryderu wedi i'r gymdeithas fasnach rybuddio eu bod nhw’n wynebu dechrau anodd i 2025.

Dywedodd arbenigwr o Gonsortiwm Manwerthu Prydain bod hyder cwsmeriaid yn yr economi wedi lleihau ddiwedd eleni.

Daw wedi i’r ffigyrau GDP diweddaraf awgrymu nad oedd yr economi wedi tyfu o gwbl rhwng misoedd Gorffennaf a Medi.

Dywedodd Tom Holder o Gonsortiwm Manwerthu Prydain wrth ITV Cymru y bydd diffyg hyder ynghyd â chyllidebau tynn yn golygu llai o wario mewn siopau ym mis Ionawr.

“Mae ein harolwg barn ddiweddaraf o gwsmeriaid yn dangos bod amcangyfrif pobl o faint y maen nhw’n bwriadu gwario yn y siopau wedi syrthio chwe phwynt,” meddai Tom Holder o’r gymdeithas fasnach.

“Mae disgwyliadau pobl ar gyfer yr economi wedi syrthio yn sylweddol hefyd gan ostwng i finws 27, i lawr wyth pwynt.”

Image
Yvonne ac Olive
Yvonne Griffiths-Rogers ac Olive Bowen

‘Dal yn ôl’

Dywedodd Yvonne Griffiths-Rogers o siop Pethau Olyv yn San Clêr eu bod nhw’n gobeithio am y gorau er bod pethau’n anodd.

“Roedden ni’n eithaf prysur ddechrau Rhagfyr, ond ddim cymaint yn arwain at gyfnod y Nadolig nawr,” meddai.

“Ac rwy'n meddwl bod llawer o siopau wedi dechrau eu sales yn gynharach. Dydyn ni heb wneud hynny eto.”

Ychwanegodd Olive Bowen o’r siop: “Mi ydan ni’n poeni am y flwyddyn i ddod.

“Ond mae’n rhaid i ni fod yn gadarnhaol a symud ymlaen ag ef, ac fe fyddwn ni’n iawn, rwy’n credu.”

Dywedodd Mobin Butt, sy’n rhedeg stondin ar Rodfa Santes Catrin yng Nghaerfyrddin, bod llawer o'i gydweithwyr eisoes wedi cau siop oherwydd costau cynyddol a llai o ymwelwyr.

“Mae wedi bod yn anodd iawn eleni, oherwydd bod y biliau dŵr yn codi ac mae'r bil nwy yn codi hefyd nawr ym mis Ionawr,” meddai.

“Felly rwy'n meddwl bod pobl wedi bod yn dal yn ôl. Mae pawb sy’n gweithio mewn masnach yn ei chael hi'n anodd eleni.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.