Newyddion S4C

Gwynedd: Gŵr 95 oed yn marw yn yr ysbyty ar ôl aros dros 16 awr am ambiwlans

09/12/2024
Ambiwlans

Bu farw dyn 95 oed o Gaernarfon yn yr ysbyty ar ôl aros 16 awr am ambiwlans wedi i’w alwad 999 gael ei chategoreiddio yn anghywir.

Clywodd cwest fod ambiwlans wedi ei alw ar gyfer David Owen Roberts, hen daid a gŵr gweddw o Lon Tŷ Gwyn ar 14 Tachwedd 2023 ar ôl ymweliad i’w gartref gan feddyg.

Roedd y meddyg wedi galw’r ambiwlans am 16.30 y diwrnod hwnnw er mwyn i Mr Roberts gael triniaeth bellach ar ôl iddo dderbyn gwrthfiotigau ar gyfer haint ar y frest.

Dywedodd mab Mr Roberts, Keith Roberts, bod y meddyg wedi dweud y byddai’r ambiwlans “yn cymryd ryw awr” i gyrraedd.

Ond mewn cwest yng Nghaernarfon ddydd Llun, dywedodd Gillian Pleming, pennaeth gwasanaeth ar gyfer Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, bod yr alwad 999 wedi ei chategoreiddio fel galwad “green two” nad oedd yn argyfwng , yn lle galwad “amber one” difrifol.

Cafodd criw ambiwlans oedd wedi’i leoli yn y dref, ei anfon i dŷ Mr Roberts y bore trannoeth.

Wedi 16 awr a 19 munud o aros, fe gyrhaeddodd yr ambiwlans am 08.49 ar fore 15 Tachwedd, gyda Mr Roberts yn “hynod o wael”, yn ôl uwch grwner gogledd orllewin Cymru, Kate Robertson.

Petai’r alwad wedi derbyn y categori priodol, clywodd y cwest y byddai’r ambiwlans wedi cyrraedd 15 awr a 28 munud ynghynt

Nid oedd yr ambiwlans yn cael teithio gyda golau glas ar gyfer y daith wyth milltir i Ysbyty Gwynedd, gan deithio ar gyflymder arferol.

'Heriau'

Dywedodd Ms Pleming bod y gwasanaeth yn wynebu “heriau sylweddol” a bod yna “dipyn o waith yn digwydd” er mwyn gwella eu perfformiad.

Bu farw Mr Roberts yn Ysbyty Gwynedd ar 15 Tachwedd o ganlyniad i niwmonia, wedi’i waethygu gan ei oedran. 

Dywedodd ymgynghorydd yn yr ysbyty, Dr Katie Kemp, nad oedd modd penderfynu a fyddai’r canlyniad wedi newid petai Mr Roberts wedi cyrraedd a chael triniaeth yn gynharach.

Dywedodd bod Mr Roberts “wedi colli’r cyfle am 24 awr olaf gyfforddus ac urddasol” oherwydd yr oedi.

Cafodd marwolaeth o achosion naturiol ei chofnodi yng ngwest Mr Roberts.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.