Newyddion S4C

Cyhuddo'r rapiwr Jay-Z o dreisio merch 13 oed mewn achos sifil

09/12/2024
Jay Z

Mewn achos sifil yn America, mae’r rapiwr Jay-Z wedi’i gyhuddo o dreisio merch 13 oed gyda Sean 'Diddy' Combs yn 2000.

Dywedodd y gyhuddwraig, sy'n cael ei hadnabod fel Jane Doe, i'r ymosodiad ddigwydd mewn parti ar ôl Gwobrau Cerddoriaeth Fideo MTV.

Roedd yr achos sifil gwreiddiol yn enwi Sean Combs yn unig pan gafodd ei gyflwyno am y tro cyntaf ym mis Hydref.

Ond fe gafodd ei ail-gyflwyno ddydd Sul er mwyn cynnwys Jay-Z, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel Shawn Carter, fel diffynnydd.

Mae'r ddau ddyn yn gwadu'r cyhuddiadau yn eu herbyn.

Mewn datganiad, dywedodd Shawn Carter mai “ymgais flacmel” yw'r cyhuddiad.

Mae Sean 'Diddy' Combs yn y carchar ar hyn o bryd, yn aros am achos llys ar ôl cael ei gyhuddo ym mis Medi o fasnachu pobol ar gyfer rhyw a throseddau eraill. 

Honnodd Jane Doe bod Shawn Carter a Sean Combs wedi cymryd eu tro i'w threisio a'i bod yn yfed diod oedd yn gwneud iddi deimlo'n "ben ysgafn".

Fe lwyddodd i ddianc, meddai, drwy daro Sean Combs yn ei wddf wrth iddo ymosod arni, gan redeg i orsaf betrol a chael ei chasglu gan ei thad. 

'Honiadau erchyll'

Mewn datganiad, dywedodd Shawn Carter: "Mae’r honiadau hyn mor erchyll eu natur fel fy mod yn erfyn arnoch i gyflwyno cwyn droseddol, nid cwyn sifil! Dylai pwy bynnag a fyddai’n cyflawni trosedd o’r fath yn erbyn plentyn dan oed gael ei roi dan glo, oni fyddech yn cytuno?

"Byddai'r dioddefwyr honedig hyn yn haeddu cyfiawnder gwirioneddol pe bai hynny'n wir."

Ac mae Shawn Carter wedi beirniadu'r cyfreithiwr, Tony Buzbee, a gyflwynodd yr achos cyfreithiol.

Mewn ymateb, dywedodd Tony Buzbee wrth Sky News: "Mae hwn yn fater difrifol iawn a fydd yn destun achos llys."

Mae Shawn Carter/ Jay-Z wedi bod yn briod â Beyonce ers 2008 ac mae ganddyn nhw dri o blant.

Llun: Chris Delmas / AFP
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.