Huw 'Fash' Rees: 'Angen gwell cynllun i bobl sy'n dibynnu ar gyflenwad trydan am resymau iechyd'
Huw 'Fash' Rees: 'Angen gwell cynllun i bobl sy'n dibynnu ar gyflenwad trydan am resymau iechyd'
Mae'r cyflwynydd Huw 'Fash' Rees wedi dweud bod angen gwell cynllun ar gyfer pobol sy'n dibynnu ar gyflenwad trydan am resymau iechyd ar ôl iddo fethu defnyddio ei beiriant dialysis dros y penwythnos yn sgil Storm Darragh.
Mae'r arbenigwr ffasiwn rhaglenni Heno a Prynhawn Da yn dioddef o glefyd yr arennau ac yn dibynnu ar beiriant dialysis o ddydd i ddydd.
Mae’r peiriant yn glanhau’r gwaed ar ran yr arennau wedi iddyn nhw roi’r gorau i weithio, gan dynnu gwastraff o’r corff.
Ond nid oedd modd iddo ddefnyddio'r peiriant dros y penwythnos ar ôl i Storm Darragh amharu ar ei gyflenwad trydan.
Dywedodd ei fod wedi bod heb drydan ers oriau mân fore Sadwrn - ac mae'n parhau i ddisgwyl iddo ddychwelyd.
"Gan bo fi ar restr priorty gyda'r bwrdd trydan, mae hynny'n golygu bod nhw fod i gysylltu efo chi pam bod problem i weld os allen nhw helpu," meddai wrth siarad ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru fore Llun.
"Ond hyd yn hyn, dw i heb glywed gair. Beth dw i'n clywed gan gleifion eraill ydi bod ambell un wedi cael galwad ffôn ond y gweddill ddim, a bydde chi'n meddwl gan bod e wedi bod i ffwrdd tridie erbyn hyn bydde nhw wedi meddwl, 'wel mae'r person yma'n defnyddio peiriant i fyw, well i ni roi galwad ffôn i weld sut maen nhw ac os allen ni helpu' - 0nd hyd yn hyn, dw i heb glywed un peth."
Ar ôl iddo fethu defnyddio'r peiriant, roedd yn rhaid iddo fynd i'r ysbyty i gael prawf gwaed.
Er bod y dyddiau diwethaf wedi bod yn "anodd", dywedodd ei fod yn teimlo'n "lwcus" ar y cyfan.
"Fi'n teimlo'n oce, fi'n lwcus iawn bod y sgil effeithiau heb fod yn fawr, fi'n well nag o'n i'n meddwl bydde fi," meddai.
"O'n i yn yr ysbyty neithiwr i sicrhau bod y toxins yn iawn - mi odd y lefela'n uwch nag arfer, ond doedda nhw ddim moyn i fi mynd mewn i'r ybysty neithiwr.
"So fi'n mynd lawr bore ma, fi di cal galwad ffôn bore 'ma yn dweud bod slot ar fy nghyfer i felly fyddai wir yn neidio'n y car a'n mynd syth i'r ysbyty."
Ond nid pawb sydd yr un mor ffodus, meddai.
"Ma' lot o bobol sy'n cael y triniaethau ma'n sâl iawn, ac nid ond pobol sydd gyda'r arene ond meddyliwch am bobol sydd â chancr," meddai.
"Mae merch lawr yr hewl 'di cysylltu penwsos 'ma i ddweud bo hi 'di bod nôl a mlaen i'r ysbyty a bo' hi 'di goro dod adre o'r ysbyty, dim trydan 'da hi yn y tŷ, dim ffordd o wresogi'r tŷ. Dim pawb sydd â rhyw fath o extended family sy'n gallu edrych ar ôl chi a helpu chi.
"Fi'n gwbo mae sawl un wedi mynd nôl i fyw at rieni ac ati, ond yn aml iawn ni o'r oedran lle does ganddo ni ddim rhieni i sefyll gyda."
Gyda'r storm wedi pasio, mae'r cyflwynydd yn gobeithio y bydd ei gyflenwad trydan yn dychwelyd ddydd Llun.
"Mae hi'n oer yn y tŷ hefyd a pan chi ar dialysis, neu ma probleme arene 'da chi, ma'r oerfel yn beth mawr, chi wastad yn oer.
"Felly fi 'di bod yn gorwedd yn gwely trwy'r penwythnos gyda doi duvet, canhwyllau jyst ar gyfer golau ac i drio cynhesu i ddweud y gwir.
"Felly dw i'n mawr obeithio nawr bod rhywbeth yn mynd i ddigwydd heddi."
Dywedodd llefarydd ar ran cwmni National Grid: "Storm Darragh oedd y storm fwyaf y mae ein rhanbarthau wedi ei hwynebu ers degawdau.
"Mae ein peiriannwyr, ystafelloedd rheoli, canolfan gyswllt a thimau cymorth wedi bod yn gweithio yn ddi-flino i gynnal pŵer ar draws y rhwydwaith. Ers dechrau'r storm, rydym wedi adfer dros 400,000 eiddo yn ne Cymru.
"Mae'r tywydd garw wedi gwneud amodau gwaith i'n peiriannwyr yn heriol ond maent yn parhau i wneud cynnydd - drwy fynd i'r afael â phroblemau i sicrhau fod pŵer pobl yn ôl ymlaen mor gyflym a diogel ag y gallant."