Tyfu fyny yn hoyw yng Nghymru ‘fel byw mewn ffilm arswyd’ i Daf James
Mae’r dramodydd a’r cerddor Daf James wedi dweud bod tyfu i fyny yn hoyw yng Nghymru “fel byw mewn ffilm arswyd”.
Ar raglen Sgwrs Dan y Lloer ar S4C dywedodd awdur drama Llwyth a’r gyfres BBC Lost Boys and Fairies ei fod wedi ei fwlio yn ddidrugaredd yn blentyn ysgol.
“Ro’n i’n mynd i gapel Saesneg, Ramoth, yn y Bont-faen, ac wedyn o’n i’n mynd i Maindy, Capel Cymraeg,” meddai.
“Fi’n edrych nôl ac mae’n teimlo fel byd hen ffasiwn ofnadw'. Er mai dim ond 40 o flynyddoedd yn ôl oedd e.
“Mae’n teimlo’n hen yn fy meddwl i - dw i dal yn gwynto’r hen gapel ‘na, a’r pren.
“A heb anghofio hefyd yn yr 80au roedd Section 28 a Margaret Thatcher, doedd yr athrawon ddim yn cael sôn am berthnasau hoyw yn yr ysgol.
“O’n i o’r gred - achos ro’n i’n eitha’ Cristnogol pan oni’n blentyn, yn mynd i glwb Cristnogol yn yr ysgol.
“Ac roedd bod yn hoyw wrth gwrs yn rhywbeth y byddech chi’n mynd i uffern amdano fe. A chi’n tyfu lan yn credu hyn.
“So pan chi’n cael y dyheadau ‘ma ma’ nhw’r pethau mwyaf ofnadw' i deimlo yn y byd.
“Ac roedd hi fel byw mewn ffilm arswyd bron.”
Dywedodd pan oedd rhwng 11 a 13 oed ei fod yn casáu mynd ar y bws ysgol.
“O’n i jest yn eistedd yno yn y gadair fel hyn achos o’n i jest yn aros am yr enwe, neu’r gwneud hwyl ar ben,” meddai.
“O’n i’n teimlo mod i jest moyn bod yn anweledig.
“Mae plant yn greulon. A’r rheswm mae plant yn greulon yw am fod nhw yn teimlo ofn ‘fyd.
“Dydyn nhw ddim yn teimlo’n gyffyrddus yn eu corff eu hunain ac felly maen nhw’n tynnu sylw ar bobl sy’n wahanol.”
‘Heddwch’
Dywedodd ei fod wedi teimlo wedi ei dderbyn am y tro cyntaf gan y gymuned Gymraeg ar ôl i’w ddrama Llwyth, y ddrama Gymraeg gyntaf cwiar gan ddramodydd hoyw, gael ei llwyfannau.
“Nes i ddim disgwyl i’r gymuned Gymraeg gofleidio hi fel naethon nhw,” meddai.
“Beth sy’n biwtifwl am hynna, ydi bod Aneurin yn y ddrama yn mynd ar siwrne lle mae’n teimlo gwrthdaro rhwng ei hunaniaeth hoyw a’i hunaniaeth Gymreig.
“Ac erbyn y diwedd mae’n ffeindio ryw fath o heddwch.
“A beth oedd yn amazing am yr holl brofiad, drwy sgwennu'r ddrama a’r ddrama yn cael ei derbyn gan y gynulleidfa Gymreig - nid yn unig yng Nghaerdydd ond ar draws y wlad i gyd - nes i ffeindio’r un heddwch.”
Bydd Sgwrs Dan y Lloer yn cael ei darlledu am 20.00 ddydd Llun 23 Rhagfyr ar S4C.