Salwch beichiogrwydd difrifol: ‘Ro’n i’n sâl ddydd a nos am wyth mis’
Salwch beichiogrwydd difrifol: ‘Ro’n i’n sâl ddydd a nos am wyth mis’
Pan roedd Manon Steffan Ros yn feichiog am y tro cyntaf yn 2005, doedd hi ddim yn gallu yfed dŵr am wyth mis heb daflu i fyny.
Roedd yr awdures o Dywyn ym Meirionnydd yn dioddef o’r cyflwr hyperemesis gravidarum, sef y salwch beichiogrwydd difrifol a brofodd Tywysoges Cymru.
Fe dreuliodd wythnosau o’i beichiogrwydd yn yr ysbyty’n cael triniaethau hylif mewnwythiennol, gan orfod rhoi’r gorau i’w gwaith am gyfnod.
“Dydy pobol ddim yn dalld na dim salwch bora disgwyliedig ydi hwn,” meddai wrth Newyddion S4C.
“Mae o wir yn eithafol – o’n i’n cymryd sip o ddŵr a jest yn dod nôl i fyny efo bile.
“O’n i’n pwyso lot llai ar ddiwedd fy meichiogrwydd nag o’n i ar y dechrau.”
Yn ôl yr elusen Pregnancy Sickness Support, mae ’na ddiffyg gwybodaeth am hyperemesis ymhlith meddygon teulu.
Nawr, maen nhw’n ymgyrchu i sicrhau bod meddygon teulu yn cael gwell hyfforddiant am y cyflwr.
Y gred yw bod hyperemesis yn effeithio rhwng un a thri o bob 100 o fenywod beichiog, gan achosi iddyn nhw golli tua 5% o’u pwysau corff arferol.
Mae rhai menywod yn dioddef cynddrwg nes eu bod yn ystyried diweddu'r beichiogrwydd ac, mewn rhai achosion, bywydau eu hunain.
Gyda chefnogaeth triniaeth ysbyty, fe barhaodd Manon gyda’i beichiogrwydd a rhoi genedigaeth i fab sydd bellach yn ei arddegau.
Ond fe ddychwelodd y symptomau yn ystod ei thrydydd beichiogrwydd yn 2022.
Er bod bron i 20 mlynedd ers iddi ddioddef o hyperemesis am y tro cyntaf, dywedodd bod y diffyg gwybodaeth am y cyflwr yn parhau.
“O’n i’n mynd at y doctor a’n deud bo’ fi’n sâl a teimlo bo fi’n goro profi bod hyn yn fwy na jest salwch bore – o’n i’n sâl o hyd, ac yn teimlo’n wan,” meddai.
“O’n i’n cael yr ymateb, mae hyn yn symptom o feichiogrwydd, mae hyn yn digwydd.
“Ac o’n i’n meddwl, dw i’n nabod fy nghorff, dw i ‘di bod yn feichiog o’r blaen.
“O’n i jest yn teimlo dipyn bach fel bo’ fi ddim yn cael fy nghlywed.”
Yn ôl Charlotte Howden, prif swyddog gweithredol yr elusen Pregnancy Sickness Support, nid yw profiad Manon yn unigryw.
Mae nifer o fenywod beichiog sy’n dioddef o’r salwch wedi cysylltu gyda’r elusen am gymorth ar ôl derbyn sylwadau “torcalonnus” gan eu meddygon teulu.
Dywedodd bod y sylwadau’n cynnwys rhai fel, “Dyw rhai pobol ddim i fod yn fam”, neu “Ydych chi wedi ystyried terfynu’r beichiogrwydd?”.
Er mwyn mynd i’r afael â’r diffyg gwybodaeth, mae Ms Howden yn dweud bod angen i feddygon teulu gael mwy o hyfforddiant am hyperemesis.
Ar hyn o bryd, mae’n ofynnol i feddygon teulu ddysgu sut i asesu a rheoli'r cyflwr fel rhan o'u hyfforddiant.
Ond yn ôl Ms Howden, nid yw'r hyfforddiant yn ddigon cynhwysfawr.
Cyfrifoldeb bydwragedd?
Mae Ms Howden yn honni bod nifer o feddygon teulu yn diystyru'r cyflwr fel problem i fydwragedd.
Er mai bydwragedd sy'n bennaf gyfrifol am fenywod beichiog, nid ydyn nhw'n cael apwyntiad gyda bydwraig nes eu bod 8-12 wythnos yn feichiog.
O ystyried bod y cyflwr yn gallu dechrau'n gynnar iawn yn y beichiogrwydd, mae hi'n dweud bod 'na “fwlch mawr yng ngofal menywod beichiog sydd â hyperemesis yn yr wythnosau cynnar”, gan nad yw nifer o feddygon teulu yn gyfarwydd gyda'r cyflwr.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn disgwyl i feddygon teulu ddilyn canllawiau lleol a chenedlaethol ar sut i asesu a rheoli salwch yn ystod beichiogrwydd.
Maen nhw hefyd yn dweud ei bod yn ofynnol iddyn nhw greu cynllun triniaeth gyda chleifion.
O ran triniaeth, mae Ms Howden yn dweud bod Cymru wedi ei heffeithio gan “loteri cod-post eithriadol o annheg”.
Ar hyn o bryd, dim ond un feddyginiaeth sydd wedi cael ei drwyddedu i drin salwch beichiogrwydd yn y DU.
Mae Xonvea wedi cael ei ddefnyddio yn yr Unol Daleithiau a Chanada am ddegawdau, ac fe gafodd ei gyflwyno yn y DU chwe blynedd yn ôl.
Ond yn wahanol i Loegr, ni wnaeth Cymru a'r Alban ei ychwanegu i'w rhestr meddyginiaethau.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod Xonvea yn rhy ddrud i'w ddefnyddio.
“Yn 2019, daeth Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan i’r casgliad nad oedd digon o ddata i ddangos bod Xonvea yn cynrychioli defnydd cost-effeithiol o adnoddau’r GIG,” medden nhw.
Fodd bynnag, maen nhw'n dweud bod nifer o feddyginiaethau oddi ar y label - sef rhai sydd wedi eu trwyddedu ond sy'n cael eu defnyddio y tu allan i dermau eu trwydded yn y DU - yn cael eu defnyddio i drin salwch beichiogrwydd.
Dyfodol iechyd menywod
Mae hyperemesis yn un o nifer o gyflyrau iechyd menywod sy'n cael eu hanwybyddu, yn ôl ymchwil.
Fel rhan o’r ymdrech i gau’r bwlch iechyd rhwng y rhywiau, mae pob cenedl yn y DU bellach yn gweithio ar gynlluniau iechyd arbennig.
Pythefnos yn ôl, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru y bydd canolfannau iechyd menywod yn cael eu sefydlu ym mhob rhan o Gymru erbyn 2026.
Er bod Manon yn croesawu’r cynllun, mae hi’n dweud bod yr ateb tymor byr yn syml.
“Dw i’n meddwl bod angen i ni siarad am ein profiadau sy’n unigryw i ni fel merched – mae ‘na lot o embaras, yn enwedig efo beichiogrwydd,” meddai.
“Achos pan ‘da chi’n cyfaddef bo chi’n stryglo efo unrhyw ran o feichiogrwydd mae ‘na bron rhyw euogrwydd, bo chdi’n teimlo’n euog fel darpar fam, bo chdi ddim yn werthfawrogol o’r hyn sydd ar fin dod mewn i dy fywyd di.
“Ond mae gen ti hawl i ddweud bod hyn yn anodd, ac mae gen ti hawl i rannu dy brofiadau anodd - dio’m yn mynd i neud chdi’n fam gwael.”
Ychwanegodd: “Mae’n beth da i siarad ac i rannu profiadau, achos wedyn mae pobl eraill yn teimlo bo’ nhw’n gallu gwneud yr un fath.”