Newyddion S4C

Ysgolion ar gau a thai heb drydan wedi difrod Storm Darragh

09/12/2024

Ysgolion ar gau a thai heb drydan wedi difrod Storm Darragh

Mae nifer o ysgolion wedi cau ar draws Cymru ddydd Llun yn dilyn difrod Storm Darragh dros y penwythnos.

Yn eu plith mae Ysgol Botwnnog ym Mhen Llŷn, sy'n aros am ymchwiliad diogelwch, gyda disgyblion yn gweithio'n rhithiol ar Google Classrooms. 

Dywedodd cwmni National Grid fore Llun bod 31,972 o aelwydydd yng Nghymru heb gyflenwad trydan o hyd.

Daw'r difrod a'r anhrefn ar ôl i'r Swyddfa Dywydd gyhoeddi rhybudd coch "perygl i fywyd" ar gyfer rhannau o Gymru ddydd Gwener.

Roedd y rhybudd am wyntoedd cryfion mewn grym rhwng 03:00 a 11:00 dydd Sadwrn, gan achosi hyrddiadau gwynt o hyd at 92mya yng Nghapel Curig yng Nghonwy ac Aberdaron yng Ngwynedd.

Mae gwasanaethau trên mewn rhannau o Gymru a Lloegr yn parhau i gael eu heffeithio ddydd Llun.

Dywedodd Trafnidiaeth Cymru bod rhwystrau ar 11 o'i llwybrau rheilffordd, gan gynnwys rhwng Abertawe ac Aberdaugleddau, rhwng Abertawe a'r Amwythig, rhwng Birmingham International a'r Amwythig, a rhwng Caer a Chaergybi.

Dywedodd Great Western Railway na ddylai teithwyr geisio teithio rhwng Abertawe a Chaerfyrddin tan o leiaf 12.00 ddydd Llun.

Dywedodd arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Andrew Morgan, fod yna “filoedd” o goed wedi disgyn ar draws Cymru.

Rhybuddiodd y gallai coed sydd wedi eu gwanhau gan y storm syrthio dros y dyddiau nesaf.

Pa ysgolion sydd ar gau?

Dyma'r ysgolion rydyn ni'n gwybod amdanyn nhw sydd ar gau fore dydd Llun. 

Castell-nedd Port Talbot

Ysgol Gynradd Maesmarchog 

Ysgol Gynradd Tonnau 

Y diweddaraf yma

Ceredigion

Ysgol Cenarth 

Ysgol Llannon 

Ysgol Syr John Rhys, Ponterwyd

Ysgol Rhos Helyg School, Bronant

Gwynedd

Ysgol Botwnnog

Ysgol Cryd y Werin

Ysgol Pont y Gof

Y diweddaraf yma

Sir Benfro

Ysgol Gynradd Aberllydan

Ysgol WR Gynradd Bro Cleddau - Llangwn a Burton

Ysgol Gynradd Gymunedol Cas-mael

Ysgol Gymunedol Brynconin - Llandysilio

Ysgol Gymunedol Maenclochog

Ysgol Llanychllwydog Cwm Gwaun

Y diweddaraf yma

Sir Gâr

Ysgol Cwrt Henri

Ysgol Llanpumsaint

Ysgol Meidrim

Ysgol Talyllychau

Y diweddaraf yma

Sir y Fflint

Ysgol Uwchradd Penarlag

Pen-y-bont ar Ogwr

Ysgol Gynradd Betws

Porthcawl Comprehensive

Ysgol Gyfun Gymraeg Llnagynwyd 

Y diweddaraf yma

Powys

Ysgol GG Y Groes

Ysgol Maes-y-Dderwen

Ysgol yr Eglwys yng Nghymru a Reolir

Ysgol yr Eglwys yng Nghymru

Y diweddaraf yma

Prif Lun: SP Energy Networks

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.