Arweinydd newydd y Ceidwadwyr Cymreig yn hapus i gydweithio ag ‘unrhyw un’ i ddisodli Llafur

08/12/2024
Darren Millar

Mae arweinydd newydd y Ceidwadwyr Cymreig wedi dweud ei fod yn hapus i gydweithio ag “unrhyw un” er mwyn disodli'r Blaid Lafur yng Nghymru.

Gofynnwyd i Darren Millar ar raglen Sunday Supplement Radio Wales fore Sul a fyddai yn fodlon cydweithio gyda phlaid Nigel Farage, Reform, yn y Senedd ar ôl yr etholiad yn 2026.

Mae'r arolygon barn wedi awgrymu bod pethau'n agos iawn rhwng Llafur, Plaid Cymru, Reform a'r Ceidwadwyr yn y Senedd gyda'r un blaid yn debygol o allu llywodraethu ar eu pennau eu hunain ar ôl yr etholiad nesaf.

“Rydw i’n credu y byddai o fudd i Gymru gael llywodraeth sydd ddim yn cael ei harwain gan y Blaid Lafur,” meddai Darren Millar.

“Rydw i’n fodlon cydweithio ag unrhyw un, a dweud y gwir, er mwyn cael gwared â’r Blaid Lafur yn yr etholiadau nesaf.

“Ac rydw i’n benderfynol o sicrhau bod newid yn digwydd yng Nghymru.

“Er mwyn gwneud hynny, mae’n rhaid i ni fwrw Llafur oddi ar ei thomen - mae mor syml â hynny.”

‘Cadarnhaol’

Cafodd Darren Millar ei enwi yn arweinydd newydd y blaid ddydd Iau a hynny heb orfod wynebu gornest.

Daw wedi ymddiswyddiad Andrew RT Davies yn dilyn misoedd o anghytuno mewnol am sawl agwedd o'i arweiniad.

Dywedodd Darren Millar ei fod eisiau mynd a’r Ceidwadwyr Cymreig i gyfeiriad “positif” dan ei arweinyddiaeth.

“Dros y blynyddoedd diwethaf, efallai ein bod wedi canolbwyntio gormod ar y pethau ydyn ni yn eu herbyn yn hytrach na'r pethau yr oeddem o'u plaid,” meddai.

“Rydyn ni o blaid rhyddid dewis. Rydyn ni o blaid cyfrifoldeb personol. Rydyn ni o blaid ffermio, o blaid yr iaith Gymraeg a diwylliant.

“Rydw i bob amser yn berson hapus, a byddai'n well gen i fod yn hapus na thrist. 

“Ac rwy’n meddwl bod Cymru yn wlad sy’n cynnig cyfle, a dylen ni ddim canolbwyntio ar bethau negyddol o hyd.

“Felly rwy'n wirioneddol obeithiol am y dyfodol.

“Fe fyddwn ni’n datblygu agenda cadarnhaol sy’n ysbrydoli pobl i bleidleisio droson ni.”

Ychwanegodd ar raglen Politics Wales yn ddiweddarach bod hynny'n cynnwys bod "o blaid datganoli".

Llun: Politics Wales ar BBC One Wales.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.