Y Tywysog William a Donald Trump yn cyfarfod ar ôl ailagor Notre-Dame
Fe wnaeth Tywysog Cymru gyfarfod gyda Darpar Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, wrth ymweld â Ffrainc ar gyfer ailagor eglwys gadeiriol Notre-Dame.
Roedd y Tywysog William wedi ymuno ag arweinwyr byd ym Mharis i nodi adfer Notre-Dame, gafodd ei ddinistrio gan dân bum mlynedd yn ôl.
Disgrifiodd y darpar arlywydd y Tywysog fel “dyn da” oedd yn gwneud “gwaith gwych”.
Ymhlith yr arweinwyr yn y digwyddiad roedd Arlywydd yr Wcráin Volodymyr Zelensky a Dr Jill Biden, a oedd yn cynrychioli’r Arlywydd yr Unol Daleithiau Joe Biden.
Roedd disgwyl i’r Tywysog William drafod pwysigrwydd “perthynas arbennig” rhwng yr Unol Daleithiau a’r DU â Trump a’r fenyw gyntaf Melania Trump yn ystod eu cyfarfodydd priodol.
Roedd y Tywysog William yno ar gais llywodraeth y DU.
Fe wnaeth William a Trump gyfarfod yn llysgenhadaeth Prydain ym Mharis.
Dywedodd Palas Kensington fod y cyfarfod 40 munud yn un "cynnes a chyfeillgar".
Roedd y ddau wedi trafod amrywiaeth o faterion byd-eang ond yn canolbwyntio ar bwysigrwydd y berthynas arbennig rhwng y DU a’r Unol Daleithiau, medd y palas.