Storm Darragh: Toriadau trydan a 'digwyddiad difrifol' mewn sawl sir yng Nghymru
Storm Darragh: Toriadau trydan a 'digwyddiad difrifol' mewn sawl sir yng Nghymru
Mae 'digwyddiad difrifol' wedi’i ddatgan mewn sawl sir yng Nghymru yn sgil Storm Darragh.
Mae degau o filoedd o gartrefi yn parhau heb drydan ar draws y wlad wedi i'r storm ddod â gwyntoedd o dros 90mya mewn rhai ardaloedd.
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cyhoeddi "digwyddiad o bwys" ar draws siroedd Caerfyrddin, Ceredigion, Penfro a Phowys ac wedi galw ar bobl i beidio teithio os nad oes rhaid er bod y rhybudd coch wedi dod i ben.
Dywedodd yr Uwcharolygydd Chris Neve: "Mae'n golygu y gallwn alw ar yr adnoddau sydd eu hangen arnom i ymateb i’r heriau a ddaw yn sgil Storm Darragh."
Mae rhybudd oren am wynt yn ei le nes 21.00 heno, wedi i'r Swyddfa Dywydd gyhoeddi rhybudd coch prin "perygl i fywyd" am wyntoedd cryfion rhwng 03:00 a 11:00.
Cadarnhaodd y Swyddfa Dywydd fod hyrddiadau gwynt o hyd at 92mya wedi eu cofnodi dros nos yng Nghapel Curig ac Aberdaron yng Ngwynedd. Roedd hyrddiadau o 83mya yn Aberporth yng Ngheredigion ac 80mya ym Mhen-bre ger Llanelli.
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1865363679669076017
Ddydd Sadwrn roedd cwmnioedd National Grid ac SP Energy Networks yn adrodd toriadau pŵer ar draws gogledd, canolbarth a de Cymru.
Dywedodd National Grid fod dros 60,000 o dai heb bŵer.
Dywedodd y cwmni: "Mae ein timau’n gweithio’n galed iawn i adfer cyflenwadau pŵer a chefnogi cwsmeriaid wrth i wynt a glaw trwm effeithio ar rannau o’n rhwydwaith trydan.
"Mae'r tywydd eithafol wedi effeithio’n arbennig ar ein rhwydwaith yn ne orllewin a de Cymru dros nos, sydd wedi gweld hyrddiau gwynt o hyd at 80mya mewn rhai ardaloedd."
Mae SP Energy Networks wedi rhybuddio na fydd modd adfer trydan rhai cartrefi nes 22.45 a hynny oherwydd yr amodau gwael.
Inline Tweet: https://twitter.com/metoffice/status/1865308162892390582
Llifogydd
Mae rhybudd oren am law yn ei le yn y de-ddwyrain nes 18.00 heno a rhybudd melyn ar draws Cymru nes 21.00.
Am 17:30 roedd yna hefyd bron i 100 o rybuddion llifogydd mewn grym gan Gyfoeth Naturiol Cymru, gan gynnwys 27 lle’r oedd angen ‘gweithredu ar frys’.
Roedd y rheini yn cynnwys Afon Teifi yn Llanbedr Pont Steffan, Afon Gwy ger Llanfair ym Muallt, Afon Efyrnwy yn ardal Meifod, Afon Hafren yn ardal Aber-miwl a Fron ac Afon Hafren yn Aberbechan.
Roedd adroddiadau brynhawn Sadwrn am lifogydd yn Llanfair-ym-Muallt.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru fod disgwyl llifogydd rhwng Dolwyddelan a Chonwy.
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1865383992427528592
Trenau, fferïau ac awyrennau
Dywedodd Network Rail bod yr holl wasanaethau trên i'r gorllewin o Gaerdydd wedi'u gohirio am y tro oherwydd bod coed ar y lein.
Mae Trafnidiaeth Cymru wedi annog teithwyr i beidio â theithio neu i wirio cyn gwneud hynny ar bron y cyfan o'u gwasanaethau.
Mae Maes Awyr Caerdydd wedi dweud na fydd awyrennau yn defnyddio eu llain lanio tra bod y rhybudd coch mewn grym.
Mae gwasanaethau Stena Line rhwng Caergybi a Dulyn ac Abergwaun a Rosslare wedi eu canslo.
Inline Tweet: https://twitter.com/Jamiehuwroberts/status/1865322073641370011
Y ffyrdd
Roedd yr M4 Pont Tywysog Cymru a Phont Hafren ar yr M48 ar gau ben bore Sadwrn i holl draffig oherwydd gwyntoedd cryfion.
Mae Pont Cleddau yn Sir Benfro a Phont Britannia ar yr A55 ar gau oherwydd gwyntoedd cryfion.
Mae yr A55 hefyd ar gau tua'r gorllewin wrth gyffordd 32 oherwydd llifogydd.
Mae llifogydd wedi cau ffordd osgoi Dolgellau ar yr A470, ac mae tirlithriad wedi cau'r A487 rhwng Corris a Machynlleth.
Roedd Ffordd y Traeth Felinheli, a Ffordd Glandŵr ym Mangor, ar gau oherwydd pryderon am lifogydd ar hyd yr arfordir.
Cyhoeddodd Gyngor Abertawe lun (uchod) o goeden wedi syrthio ger mynediad Ffordd Mayals.
Fe wnaeth y cyn-chwaraewr a'r sylwebydd rygbi Jamie Roberts gyhoeddi fideo o goeden oedd wedi syrthio ar Heol y Gadeirlan yng Nghaerdydd.
Roedd coed yn syrthio wedi cau nifer o ffyrdd gan gynnwys:
- Yr A470 rhwng Betws-y-Coed a Llanrwst yn Sir Conwy.
- Yr A470 rhwng Dolgellau a Mallwyd
- Yr A470 rhwng Comins Coch a Glantwymyn
- Yr A470 i'r gogledd a'r de o Ferthyr Tydful.
- Rhan o’r A497 ym Mhorthmadog o'r gyffordd gyda'r A498 i Bentrefelin yng Ngwynedd.
- A499 yn Llanbedrog
- A497 Cylchfan Pulrose ag Efailnewydd ger Pwllheli
- Yr A5 ger safle Alpoco, Caergybi ar Ynys Môn
- Heol Pant-y-Gored, Pentyrch, Caerdydd.
- Y ffordd rhwng Tonna a Resolfen yng Nghastell-nedd.
- Rhan o’r A40 rhwng Nantgaredig a Felin-wen yn Sir Gaerfyrddin.
- Y ffordd o Gas-blaidd i Drefgarn yn Sir Benfro.
- Yr A4139 rhwng Jameston a Llandyfái yn Sir Benfro.
Mewn datganiad dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod nhw'n derbyn "nifer uchel o alwadau" yn ymwneud â rhwystrau ar y ffyrdd ac amodau gyrru gwael.
Dywedodd yr Uwcharolygydd Chris Neve: “Rwy’n annog pawb i gymryd y rhybuddion a gyhoeddwyd o ddifrif, er mwyn osgoi teithio diangen yn ystod y cyfnod hwn a dilyn pob cyngor swyddogol i gadw’n ddiogel.
“Bydd hyn hefyd yn ein helpu i reoli ac ymateb i alwadau am ein gwasanaeth yn ystod y cyfnod prysur iawn hwn."
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1865419585031217375
Chwaraeon
Ymhlith y digwyddiadau sydd wedi eu canslo mae gemau Caerdydd v Watford a Chasnewydd v Carlisle yng Nghynghrair Lloegr.
Mae gêm Everton yn erbyn Lerpwl hefyd wedi ei chanslo oherwydd y tywydd gwael.
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cyhoeddi fod pob gêm wedi'i gohirio ddydd Sadwrn yn sgil y tywydd.
Cyhoeddodd Undeb Rygbi Cymru y bydd yr holl gemau cymunedol ar draws bob oedran yn cael eu gohirio ddydd Sadwrn.
Rhybuddion tywydd
Mae’r rhybudd coch yn effeithio ar y siroedd canlynol:
- Ynys Môn
- Gwynedd
- Conwy
- Sir Benfro
- Abertawe
- Caerdydd
- Pen-y-bont ar Ogwr
- Sir Gaerfyrddin
- Ceredigion
- Mynwy
- Castell-nedd Port Talbot
- Casnewydd
- Bro Morgannwg
Mae’r Swyddfa Dywydd eisoes wedi cyhoeddi y bydd rhybudd oren am wyntoedd cryfion yn dod i rym i'r rhan helaeth o Gymru ddydd Sadwrn.
Bydd y rhybudd yn weithredol rhwng 01:00 a 21:00 ddydd Sadwrn ac yn effeithio ar y siroedd canlynol:
- Blaenau Gwent
- Pen-y-bont ar Ogwr
- Caerffili
- Caerdydd
- Sir Gâr
- Ceredigion
- Conwy
- Sir Ddinbych
- Sir y Fflint
- Gwynedd
- Ynys Môn
- Merthyr Tudful
- Sir Fynwy
- Castell-nedd Port Talbot
- Casnewydd
- Sir Benfro
- Powys
- Rhondda Cynon Taf
- Abertawe
- Torfaen
- Bro Morgannwg
- Wrecsam
Daw hyn wedi i'r Swyddfa Dywydd gyhoeddi rhybudd melyn am law trwm ar gyfer rhan helaeth o Gymru. Cafodd ei ymestyn ddydd Sadwrn.
Mae’r rhybudd melyn mewn grym rhwng 15:00 ddydd Gwener a 21:00 ddydd Sadwrn.
Llun: Llifogydd yn Llanfair ym Muallt gan Julie Munn