Problem gyda system radio'n effeithio ar 'nifer fach' o drenau yng Nghymru
Mae "nifer fach" o wasanaethau trenau yng Nghymru wedi cael eu heffeithio gan broblem gyda'r system gyfathrebu genedlaethol.
Dywedodd Trafnidiaeth Cymru bod "nifer fach" o wasanaethau trenau yng Nghymru wedi cael eu heffeithio gan "broblem genedlaethol barhaus" gyda system cyfathrebu’r rheilffyrdd fore dydd Gwener.
"Rydym yn monitro’r sefyllfa’n agos, ac rydym yn cynghori teithwyr i wirio'r wybodaeth ddiweddaraf am eu taith cyn teithio," medden nhw.
Daw'r datganiad wrth i nifer o drenau gael eu gohirio neu ganslo ar draws y Deyrnas Unedig yn sgil y broblem.
Dywedodd Trafnidiaeth Cymru bod y llinellau o Bwllheli i Fachynlleth ac Aberystwyth i Amwythig wedi cau fore dydd Gwener.