Gwynedd: Galw ar Lywodraeth Cymru i ddod â chyfnewid tai cymdeithasol rhwng siroedd i ben
Mae Cyngor Gwynedd wedi cefnogi cais i alw ar Lywodraeth Cymru i rwystro pobl sydd yn byw mewn cartrefi cymdeithasol i gyfnewid tai, oni bai bod hynny’n digwydd o fewn yr un sir neu yn agos iawn i ffin y sir.
Fe gafodd y cynnig ei basio o 49 pleidlais i dri gydag un yn ymwrthod yng nghyfarfod llawn y cyngor brynhawn dydd Iau.
Roedd y Cynghorydd Delyth Lloyd Griffiths sy’n cynrychioli ward Brithdir a Llanfachreth / Y Ganllwyd / Llanelltyd ar Gyngor Gwynedd wedi rhoi’r cynnig gerbron y cyngor brynhawn dydd Iau.
Dywedodd y Cynghorydd Griffiths y dylai'r awdurdod "bwyso ar" Lywodraeth Cymru i newid y ddeddf er mwyn atal pobl sydd yn dymuno cyfnewid tŷ, oni bai ei fod o fewn yr un sir neu yn agos i ffiniau’r sir.
Roedd y cynnig yn dweud: "Cred y cyngor hwn y dylai arfer Llywodraeth Cymru o gyfnewid tai cymdeithasol ddod i ben ar unwaith, oni bai bod y tŷ yn cael ei gyfnewid o fewn yr awdurdod lleol.
"Erfyniaf heddiw am gefnogaeth Cyngor Gwynedd i bwyso ar Lywodraeth Cymru i newid y ddeddf er mwyn digoni’r angen am dai lleol."
Roedd hi wedi dweud fod yna dŷ mewn pentref yn ei ward wedi ei gyfnewid “nifer o weithiau”.
Mae cyfnewid y tŷ penodol wedi digwydd mewn cyfnod pan fo 12 o bobl leol, gan gynnwys teuluoedd, yn aros am dŷ cymdeithasol yn y pentref dan sylw, meddai'r cynghorydd.
Dywedodd nad yw deiliaid y cartref yn dod o Gymru nac yn aros am fwy na 12 mis.
Mae Newyddion S4C wedi cysylltu â Llywodraeth Cymru am ymateb.