Newyddion S4C

Capten Cymru Aaron Ramsey yn gadael Caerdydd

Aaron Ramsey gan Huw Evans

Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd wedi cadarnhau bod Aaron Ramsey yn gadael y clwb, gydag adroddiadau y bydd yn ymuno â chlwb ym Mecsico.

Cafodd Ramsey, sy'n 34 oed, ei benodi’n rheolwr dros dro i’r Adar Gleision ar gyfer tair gêm olaf y clwb yn y Bencampwriaeth y tymor diwethaf ar ôl cymryd yr awenau gan Omar Riza.

Ond nid oedd yn gallu atal y clwb rhag gorffen ar waelod y tabl, gan ddisgyn i Adran Un.

Fe wnaeth capten Cymru 23 o ymddangosiadau dros ddau dymor ers ail ymuno â’r clwb yn 2023.

Mae wedi cynrychioli'r clwb 51 o weithiau dros dri chyfnod yn ystod ei yrfa.

Yn ôl adroddiadau gan PA, mae Ramsey wedi cytuno i ymuno â Club Universidad Nacional - neu Pumas UNAM – y tymor nesaf.

Ramsey fyddai’r chwaraewr cyntaf o Brydain i chwarae yng nghynghrair Mecsico, petai’r trosglwyddiad yn cael ei gwblhau.

Mae’r Adar Gleision wedi cadarnhau hefyd y bydd Anwar El Ghazi, Raheem Conte, Yakou Meite, Jamilu Collins, Kieron Evans a Dimitrios Goutas hefyd yn gadael y clwb ar ddiwedd eu cytundebau presennol ar 30 Mehefin.

Mae’r clwb yn dweud eu bod dal yn y broses o recriwtio rheolwr newydd i gymryd lle Ramsey ar gyfer y tymor newydd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.