Merthyr Tudful: Dosbarth cyfrwng Cymraeg i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol
Mae cynlluniau i sefydlu'r dosbarth cyfrwng Cymraeg cyntaf ar gyfer disgyblion gydag anghenion dysgu (ADY) ym Merthyr Tudful wedi cael eu cymeradwyo.
Fe gymeradwyodd cabinet y cyngor y cynlluniau yn swyddogol ddydd Mercher ar gyfer canolfan adnoddau dysgu cyfrwng Cymraeg newydd i ddisgyblion gydag anghenion dysgu ychwanegol yn Ysgol Gymraeg Rhyd y Grug yn Aberfan.
Ar hyn o bryd, nid oes canolfan cyfrwng Cymraeg o'i bath yn y sir.
Dywedodd adroddiad y cabinet fod sefydlu darpariaeth ADY drwy'r Gymraeg yn flaenoriaeth i'r cyngor.
Bydd 12 lle yn y dosbarth ar gyfer disgyblion rhwng oedran dosbarth derbyn a blwyddyn chwech.
Fe fydd yn cynnig addysg i ddisgyblion lle nad yw addysg prif ffrwd llawn amser yn cael ei ystyried yn addas ar eu cyfer.
Fe fydd sefydlu dosbarth o'r fath yn yr ysgol yn golygu bod angen i'r ysgol gyflogi athro dosbarth arbennig a dau gynorthwyydd cymorth dysgu.
Bydd yr awdurdod lleol yn cefnogi'r ysgol i recriwtio staff priodol ar gyfer mis Medi 2025.
Dywedodd y cyngor y bydd yn parhau i weithio gydag Ysgol Gymraeg Rhyd Y Grug ac Ysgol Gymraeg Santes Tudful i adnabod disgyblion a fyddai'n gallu elwa o dderbyn eu haddysg yn y ganolfan.