Newyddion S4C

Llyfrgell Genedlaethol: Tro pedol ar gynllun £6m i ofod storio casgliadau

Llyfrgell Genedlaethol Cymru
CC

Mae “brys” i ddod o hyd i ofod i storio casgliadau “o bwys cenedlaethol a rhyngwladol” yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth wedi tro pedol ar gynllun £6m i greu gofod storio newydd yno.

Roedd y Llyfrgell Genedlaethol wedi bwriadu datblygu'r Atriwm - gofod gwag sydd rhwng ail a thrydydd adeilad y Llyfrgell - yn ofod ar gyfer storio eu casgliadau.

Ond fe benderfynodd y Llyfrgell gefnu ar y cynllun hwnnw ar ôl gwario £73,000 yn ystod y camau cyntaf, meddai llefarydd wrth Newyddion S4C.

Roedd hynny wedi i gostau o £3.2m gynyddu i £6m erbyn iddyn nhw dendro am y gwaith.

Dywedodd y Llyfrgell Genedlaethol fod y penderfyniad i beidio â bwrw ymlaen â'r gwaith yn golygu fod yna bellach “mwy o frys” i ddod o hyd i safle i ffwrdd o dir y Llyfrgell er mwyn cadw casgliadau.

Ychwanegodd llefarydd ar ran y Llyfrgell fod ganddyn nhw gynllun ar waith i chwilio am y safle yma.

'Methiant diogelu casgliadau'

Mae cofnodion bwrdd ymddiriedolwyr y Llyfrgell yn nodi y bydd peidio â bwrw ymlaen gyda’r prosiect yn gallu golygu “methiant i ddiogelu casgliadau o bwys cenedlaethol a rhyngwladol”.

“Yn dilyn penderfyniad i beidio parhau gyda phrosiect yr Atriwm (Hafod), mae’r risg o ddiffyg gofod storio yn cynyddu, ac angen gweithredu brys,” meddai’r cofnodion.

Dywedodd llefarydd ar ran y Llyfrgell wrth Newyddion S4C eu bod nhw’n mynd i’r afael â’r broblem.

“Mae peidio bod â gofod digonol ar gyfer y casgliadau yn broblem barhaol i’r Llyfrgell ac yn un sydd wedi bod angen datrysiad ers cryn amser," medden nhw.

“Mae’n dod yn amlwg bellach nad oes modd datblygu unrhyw storfa bellach yn fforddiadwy ar dir y Llyfrgell.

“Mae mwy o frys felly i ddod o hyd i safle i ffwrdd o dir y Llyfrgell, ac mae gennym gynllun i chwilio am y safle yma.”

‘Drutach’

Yn 2022 fe wnaeth y Llyfrgell adnabod Yr Atriwm neu’r Hafod fel man posib i storio’r casgliadau.

Mae’n ofod gwag sydd yn darparu golau i swyddfeydd y Llyfrgell.

Byddai’r gofod yma wedi darparu storfa am 10 mlynedd, meddai’r Llyfrgell.

Ond dywedodd llefarydd ar ran y llyfrgell wrth Newyddion S4C eu bod nhw wedi dod i’r casgliad “fod cost comisiynu gwaith ar safle’r Llyfrgell, sydd wedi ei gofrestru, yn sylweddol ddrutach nag adeiladu yn annibynnol o’r safle presennol”.

“Yn wreiddiol, roeddem wedi rhagweld costau o £3.2m am ei adeiladu, ond yn dilyn chwyddiant, gofynion cynllunio ychwanegol, storfa arbennig (gan nad oedd y gofod o siâp safonol) a diffyg cystadleuaeth am waith arbenigol fel hyn yn y farchnad, roedd y costau wedi cynyddu i £6m erbyn i ni dendro am y gwaith," medden nhw.

“Cafodd £73,000 ei wario yn 2024-25 ar gostau i’r penseiri yn arwain ar y penderfyniad i ddiddymu’r prosiect.”

‘Mynediad’

Roedd y Llyfrgell bellach yn ystyried symud deunydd a oedd wedi ei ddigideiddio, er enghraifft papurau newydd, i safle allanol.

“Yn Rhagfyr 2024, neilltuwyd arian penodol ar gyfer gwaith optimeiddio gofod, gan gomisiynu aelod o staff i adolygu faint o ofod oedd yn weddill ar y safle presennol, a pha gasgliadau fyddai yn cael eu blaenoriaeth i symud o’r safle petai galw am hynny,” ychwanegodd y llefarydd.

“Er enghraifft, mae rhai casgliadau fel papurau newydd wedi eu digido i safon uchel, ac felly dyw cadw’r gwreiddiol ar y safle yma ddim o fudd gan nad yw’r cyhoedd angen mynediad rheolaidd atynt.”

‘Gwell gofod’

Yn y cyfamser roedd y gwaith o sicrhau lle i’r holl ddeunydd oedd ar gael i’r llyfrgell yn golygu ei fod yn bwysig bod ymwelwyr yn archebu deunydd o’r archif cyn gynted â phosib.

Roedd y Llyfrgell wedi rhoi neges ar eu gwefan am gyfnod yn dweud: “Mae'n bosib na fyddwn ni'n gallu cyrchu ein holl ddeunydd archifol yn ystod yr wythnosau nesaf.”

Dywedodd llefarydd wrth Newyddion S4C bod hyn o ganlyniad i’r gwaith o “optimeiddio gofod”.

Roedden nhw’n rhoi system awyru yn y celloedd fydd yn golygu fod modd cadw eitemau archifol mewn cyflwr gwell gan achosi rywfaint o oedi wrth gael gafael ar ddeunydd i’r cyhoedd, meddai llefarydd.

“Mae hyn yn effeithio 12 o gelloedd sydd yn dal archifau penodol, ac nid yw’n effeithio ar weddill casgliadau'r Llyfrgell," medden nhw.

“Rydym yn rhagweld y bydd y gwaith wedi ei gwblhau erbyn diwedd Mai, ac y bydd hyn yn rhoi gwell gofod i’r archifau.

“Bydd y gwaith o optimeiddio gofod yn parhau drwy 2025-26 ond ddylai gweddill y gwaith ddim effeithio ar wasanaethau i’r cyhoedd.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.