Newyddion S4C

Teyrngedau i ddyn fu farw mewn gwrthdrawiad ger Llandeilo

19/07/2021
Arwel Davies
NS4C

Mae teulu dyn fu farw yn dilyn gwrthdrawiad ger Llandeilo wedi rhoi teyrnged iddo. 

Bu farw Arwel Davies, 40, o Lanwrda yn Sir Gaerfyrddin, yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd ar yr A40 ym Mhentrefelin brynhawn dydd Iau, 8 Gorffennaf.  

Roedd Mr Davies a dyn arall 62 oed, Wyn Williams o Gaerfyrddin, wedi marw yn y fan a'r lle. 

Mae teulu Arwel Davies wedi ei ddisgrifio fel "dyn bonheddig."

Dywedodd y teulu mewn datganiad: "Does dim geiriau i ddisgrifio’r effaith a gafodd Arwel ar fywydau llawer, yn enwedig ei annwyl wraig Laura, ei blant hyfryd Owen a Sofia, ei dad balch Eirian a’i frawd a’i chwaer ffyddlon Ioan a Catrin.

"Ni fydd ein bywydau byth yr un peth wedi darfod torcalonnus Arwel, serch hyn cydiwn yn dynn yn yr atgofion hoffus, arbennig a adawodd Arwel gyda ni, ei wên ddireidus, ei lygaid glas sgleiniog, a’i agwedd o fyw bywyd i’r eithaf.

"Roedd Arwel yn ddyn busnes llwyddiannus wedi ei hyfforddi o dan ofal staff teyrngar Adeilad Cladding ers dros 20 mlynedd gan alluogi Arwel i ddatblygu’r busnes a ddechreuodd ei dad yn llwyddiannus dros 4o mlynedd yn ôl. 

"Roedd yn chwaraewr rygbi o fri ac yn adnabyddus iawn yn ein clwb rygbi lleol, Clwb Rygbi Llanymddyfri, fel chwaraewr a chefnogwr lleol."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.