Gwraig dyn wnaeth foddi yn Afon Conwy wedi 'ei glywed yn gweiddi'
Mae gwraig dyn a wnaeth foddi yn afon Conwy fis diwethaf yn dweud ei bod hi'n meddwl ei bod hi wedi ei glywed yn gweiddi.
Aeth Brian Perry ar goll brynhawn ddydd Sadwrn 23 Tachwedd tra'r oedd yn cerdded yn ardal Trefriw gyda'i wraig a'i gi.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i geisio dod o hyd i Mr Perry, mewn ardal lle’r oedd yr afon yn gorlifo yn sgil Storm Bert.
Wrth agor cwest i’w farwolaeth, dywedodd yr uwch grwner ar gyfer gogledd ddwyrain a chanolbarth Cymru, John Gittins, mai yng Nghaerffili roedd Mr Perry a’i wraig yn byw.
Roedden nhw yn adnabod yr ardal yn dda ac fe aethon nhw am dro gyda’i gilydd, cyn i Mr Perry gerdded ymlaen gyda’r ci.
Dywedodd Mr Gittins fod Mrs Perry wedi siarad gyda’i gŵr ar y ffôn ond wedi cysylltu â’r gwasanaethau brys tua 20 munud yn ddiweddarach gan na chafodd hi ymateb ganddo.
“Fe ddywedodd hi ei bod yn meddwl ei bod wedi ei glywed yn gweiddi,” ychwanegodd Mr Gittins.
Roedd Gwylwyr y Glannau, y Gwasanaeth Tân, a gwirfoddolwyr o Dîm Achub Mynydd Ogwen a Thîm Chwilio ac Achub y Gogledd Ddwyrain wedi cynnal archwiliad o’r ardal tan 21.00, cyn ail-gychwyn eu hymdrechion y bore trannoeth.
Cafodd corff Mr Perry ei ganfod yn ddiweddarach ddydd Sul gan dîm chwilio tanddwr ar Ffordd Gwyr, lle’r roedd y dŵr wedi cyrraedd lefel uchder brest.
Fe nododd y patholegydd Dr Mark Atkinson benderfyniad cychwynnol dros dro mai boddi achosodd ei farwolaeth.
Cafodd y cwest ei ohirio tan ddyddiad i’w chadarnhau.