'Pryder cynyddol' am ddyn 33 oed o ardal Bangor sydd ar goll
Mae Heddlu'r Gogledd yn dweud bod gan swyddogion "bryderon cynyddol" am ddyn 33 oed o'r enw Rowan sydd wedi bod ar goll o ardal Bangor ers nos Sul, 1 Rhagfyr.
Lansiwyd ymgyrch chwilio gan asiantaethau achub ddydd Llun, a arweiniodd at ddarganfod ei gar ger goleudy Ynys Lawd ar Ynys Môn.
Mae’r gwaith o chwilio gan wylwyr y glannau a'r heddlu wrth geisio dod o hyd iddo yn parhau ddydd Mawrth.
Dywedodd Sarjant Maggie Marshall o Heddlu'r Gogledd: "Rwy'n apelio ar unrhyw un a oedd yn ardal Ynys Lawd nos Sul neu ddydd Llun, ac a allai fod wedi gweld Rowan neu Vauxhaull Astra gwyrddlas i gysylltu â ni.
"Mae’r chwilio yn parhau heddiw, ac mae swyddogion yn cadw mewn cysylltiad â'i deulu.
"Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â ni drwy ffonio 101, neu drwy ein gwefan, gan ddyfynnu'r cyfeirnod 48441."