Ble yw'r lle gorau i fyw yng Nghymru?
Mae cwmni Rightmove wedi enwi'r lle gorau i fyw yng Nghymru.
Trefynwy yn Sir Fynwy sy'n ennill y wobr yn ôl rhestr 'Lleoedd Gorau i Fyw' y cwmni eiddo.
Roedd yr astudiaeth wedi holi dros 35,000 o bobol ym Mhrydain am sut maen nhw'n teimlo am eu hardal.
Cafodd pobol eu holi am ffactorau fel fforddiadwyedd eu hardal, ac argaeledd gwasanaethau hanfodol fel ysgolion.
Yn ogystal â Threfynwy, mae pum lleoliad arall yng Nghymru hefyd wedi eu henwi ar y rhestr eleni.
Yn ôl Rightmove, tref Llandudno yng Nghonwy yw'r ail le gorau i fyw yng Nghymru.
Yn y trydydd safle mae tref Cei Newydd yng Ngheredigion, gyda thref Llandrindod ym Mhowys yn bedwerydd.
Ynys Môn yw'r pumed lle gorau i fyw yng Nghymru.
Tref Woodbridge yn Suffolk enillodd y wobr ar gyfer y lle gorau i fyw ar draws y Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd.
Dywedodd Rightmove fod ei hastudiaeth yn awgrymu mai trigolion yng Nghymru, yr Alban a de orllewin Lloegr sydd fwyaf hapus gyda lle maent yn byw.
Trigolion yn nwyrain a gorllewin canolbarth Lloegr yw'r lleiaf hapus, meddai'r cwmni.
Llun: James Stringer / Flickr