Newyddion S4C

Un o sêr Rownd a Rownd yn cwrdd â'i ddisgyblion ysgol ar ôl 60 mlynedd

Phylip Hughes

Mae un sêr yr opera sebon Rownd a Rownd wedi cyfarfod ei gyn-ddisgyblion 60 mlynedd ar ôl eu dysgu.

Roedd Phylip Hughes, sy'n 87 oed, yn athro ymarfer corff yn Ysgol Tywyn, ysgol lle'r oedd rhai o’r disgyblion yn bordio yn neuadd Bryn Arfor.

Yn ystod rhaglen Gwesty Aduniad ar S4C fe fydd ef a rhai hen ffrindiau yn cael cwrdd â’i gilydd unwaith eto.

Dywedodd Phylip Hughes, sy'n adnabyddus i nifer am chwarae rhan Mr Lloyd yn Rownd a Rownd a Stan Bevan yn Pobol y Cwm, fod dysgu yn Nhywyn yn "gyfnod hapus iawn oherwydd y plant".

"Plant hyfryd dros ben," meddai. "Mi wnes i fwynhau y gweithgareddau corfforol. Mae’r gwmnïaeth a’r gyfeillgarwch yn werth chweil yma."

Image
Gwesty Aduniad

'Wedi mynd yn hen'

Yn ôl un o’r cyn-ddisgyblion, Glaves Roberts, roedd Phylip Hughes yn ddylanwad mawr ar eu bywydau. 

“Oedd o’n ddarn mawr o’n bywyd ni pan oedden ni yn ifanc achos pan oedden ni yn Bryn Arfor, waeth i chi ddeud oedden ni fel teulu," meddai.

Mae’r dynion yn mwynhau hel atgofion, y triciau roedden nhw’n chwarae ar ei gilydd a dod i ddeall sut mae eu bywydau wedi newid ers y dyddiau ysgol. 

Roedd cael cyfarfod rhai o’r bechgyn unwaith eto yn “hyfryd iawn” meddai Phylip Hughes 

“Mae’n deimlad rhyfedd rhywsut. Mae 'na deimlad o hiraeth hefyd am yr amser a fu a bod bob un ohonan ni yn mynd yn hen ynde. 

"Ond teimlad braf iawn oedd eu cyfarfod nhw i gyd.”

Gallwch wylio Gwesty Aduniad ar S4C nos Fercher am 21:00 ac ar BBC IPlayer a Clic. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.