Ailystyried cynlluniau i gau pedair ysgol yng Ngheredigion
Mae Cyngor Ceredigion wedi ailystyried cynllun i gau pedair ysgol gynradd yn y sir ym mis Awst y flwyddyn nesaf.
Mae’r cyngor yn ystyried cau Ysgol Craig yr Wylfa, Borth, Ysgol Llanfihangel y Creuddyn ac Ysgol Llangwyryfon i'r de o Aberystwyth, ac Ysgol Syr John Rhys ym Mhonterwyd.
Fe benderfynodd y cyngor ym mis Medi i ymgynghori'n statudol ar gynigion i gau'r pedair ysgol wledig Gymraeg.
Ond fe benderfynodd y cyngor ddydd Mawrth i ddiwygio'r penderfyniad hwnnw.
Mae'n golygu y bydd y broses ymgynghori statudol i beidio â chynnal y ddarpariaeth yn Ysgol Craig yr Wylfa, Ysgol Llanfihangel y Creuddyn, Ysgol Llangwyryfon ac Ysgol Syr John Rhys o fis Awst nesaf ymlaen yn cael ei thrin fel ymgynghoriad anffurfiol ar ad-drefnu a dyfodol yr ysgolion.
Roedd hyn er mwyn "casglu rhagor o wybodaeth" cyn dod i benderfyniad.
Daw’r tro pedol wedi i’r awdurdod lleol dderbyn gwrthwynebiad ffurfiol, am nad oedd y penderfyniad yn un "ymarferol" ac roedd angen ei "ailystyried".
Roedd gwrthwynebiad yn lleol, gan gynnwys grŵp ymgyrchu Cymdeithas yr Iaith a ddywedodd y byddai'n “tanseilio nifer o gymunedau Cymraeg”.
Dywedodd yr arweinydd Brian Davies wrth yr aelodau bod “her gyfreithiol” wedi bod i’r cynlluniau.
‘Colli ffydd’
Galwodd y Cynghorydd Gareth Lloyd am ddileu’r broses a dywedodd wrth yr aelodau bod “y cyhoedd yn colli ffydd yn y cyngor” tros y sefyllfa a chyfres o benderfyniadau gan gynnwys ymgynghoriadau ar bromenâd Aberystwyth.
“Mae pobol yn colli ffydd yn y ffordd rydyn ni’n delio â phethau ac mae angen i ni gael hynny’n ôl,” meddai.
“Mae’n erydu ffydd y cyhoedd, a beth bynnag rydyn ni’n ei ddweud nawr, ni fydd pobl yn ein credu.”
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar Ysgrifennydd Addysg Lywodraeth Cymru i ddweud ei bod yn gwrthwynebu cau ysgolion gwledig.
Dywedodd Ffred Ffransis ar ran Cymdeithas yr Iaith: “Mae angen i Lynne Neagle ddatgan yn gwbl glir fod y Llywodraeth o ddifri am y polisi er mwyn osgoi sefyllfa debyg i hyn yn y dyfodol, sydd wedi creu cymaint o boen meddwl i rieni, plant, llywodraethwyr ac i'r Cyngor ei hun.”