Newyddion S4C

Marwolaethau padlfyrddio: Menyw yn y llys ar bedwar cyhuddiad o ddynladdiad

03/12/2024
Hwlffordd

Mae perchennog cwmni teithiau padlfyrddio wedi ymddangos yn y llys wedi’i chyhuddo mewn cysylltiad â marwolaethau pedwar o bobl yn 2021.

Fe wnaeth Nerys Bethan Lloyd, 39 oed o Aberafan, ymddangos yn Llys Ynadon Hwlffordd i wynebu pedwar cyhuddiad o ddynladdiad trwy esgeulustod difrifol ac un drosedd o dan y Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith.

Mae’r cyhuddiadau’n ymwneud â digwyddiad ar Afon Cleddau yn Sir Benfro ar 30 Hydref 2021, a arweiniodd at farwolaethau Paul O’Dwyer, 42 oed, Andrea Powell, 41 oed, Morgan Rogers, 24 oed, a Nicola Wheatley, 40 oed.

Lloyd oedd perchennog ac unig gyfarwyddwr cwmni Salty Dog Co Ltd, a drefnodd y daith badlfyrddio. 

Fe wnaeth pedwar unigolyn arall oroesi'r digwyddiad.

Siaradodd Lloyd yn y llys i gadarnhau ei henw, ei dyddiad geni a'i chyfeiriad yn ystod y gwrandawiad byr fore dydd Mawrth.

Dywedodd y Barnwr Rhanbarthol Mark Layton fod aelodau o deuluoedd y rhai fu farw wedi mynychu'r llys yn bersonol ac ar-lein.

Dywedodd wrthyn nhw: “Rwy’n achub ar y cyfle hwn i gydymdeimlo â chi am eich colled drist iawn.”

Wrth siarad â Lloyd, dywedodd y barnwr: “Mae eich achos yn un na all y llys hwn ddelio ag ef.

“Y dyddiad y byddwch yn ymddangos gerbron Llys y Goron Abertawe yw 3 Ionawr am 9.30am. Rydych chi'n cael eich rhyddhau ar fechnïaeth ddiamod."

Ni roddwyd unrhyw fanylion am yr achos i'r llys.

Derbyniodd Heddlu Dyfed-Powys alwad am 09.02 ar 30 Hydref 2021, yn dweud bod nifer o badlfyrddwyr mewn trfferthion ar y gored yng nghanol Hwlffordd.

Mynychodd y gwasanaethau brys y lleoliad, lle cyhoeddwyd bod Mr O’Dwyer, o Bort Talbot, Ms Rogers, o Ferthyr Tudful, a Ms Wheatley, o Abertawe, wedi marw.

Cafodd Ms Powell, o Ben-y-bont ar Ogwr, ei chludo i Ysbyty Llwynhelyg gerllaw ond bu farw chwe diwrnod yn ddiweddarach.

Cafodd Lloyd ei chyhuddo o bum trosedd yn ymwneud â’r digwyddiad ar 4 Hydref eleni.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.